Mae ymholiad wedi clywed bod contractwr Grenfell wedi dirprwyo gwiriadau diogelwch tân ar insiwleiddio llosgadwy “i’r union berson oedd wedi ei greu ac yn ei werthu.”

Dywed Ray Bailey, cyfarwyddwr Harley Facades, fod y cwmni’n “gyfforddus” wrth ddefnyddio insiwleiddio Celotex Rs5000 oherwydd ei fod wedi pasio’r profion tân angenrheidiol.

Ond mae’n cydnabod bod “dryswch” dros derminoleg graddfeydd diogelwch tân, sy’n “eithaf eang” yn y diwydiant adeiladu, meddai.

Dywedodd wrth yr ymholiad: “Roeddem yn gofyn i Celotex ‘dyma rydym yn ei ddefnyddio, ydych chi’n hapus?’ Ac mi roedden nhw.”

Gofynnodd y cyfreithiwr Richard Millett: “Ydi hi’n dod i hyn – eich bod yn dirprwyo cadarnhad dros ddiogelwch y cynnyrch i’r union berson oedd wedi ei greu ac yn ei werthu i chi?”

“Roeddem eisiau cadarnhad gan Celotex eu bod yn hapus i ni ei ddefnyddio.

“Fe wnaethom gymryd yr holl gamau cywir ag angenrheidiol yn ein barn ni er mwyn cadarnhau bod yr hyn roedden nhw wedi ei ddweud yn gywir.”

Mae Stephanie Barwise, cyfreithiwr dros grŵp o oroeswyr a phobol mewn profedigaeth, wedi dweud wrth yr ymholiad bod y cwmni wedi defnyddio’r cynnyrch er bod prif weithredwyr yn gwybod y dylai gael ei anfon yn ôl ar gyfer profion iechyd.

Mae’r ymholiad yn parhau.