Mae Caroline Jones, sydd bellach yn Aelod Annibynnol ar gyfer y de-orllewin yn Senedd Cymru, wedi rhybuddio y bydd pobol Cymru yn cael eu gadael ar ôl yn sgil ymdrechion y “pleidiau gwleidyddol i sgorio pwyntiau” wrth i ddiwedd cyfnod pontio Brexit agosáu.
Fis diwethaf gadawodd Caroline Jones grŵp Plaid Brexit oherwydd eu safbwynt ar ddatganoli.
Gwnaeth y sylwadau hyn yn dilyn yr anghytuno sydd wedi codi yn sgil cyhoeddi Bil y Farchnad Fewnol, sydd yn manylu ar sut fydd Llywodraeth Prydain yn sicrhau masnach rhwng pedair gwlad Prydain ar ôl y cyfnod pontio.
Byddai’r ddeddfwriaeth yn rhoi pwerau gwario i Lywodraeth Prydain ar ôl y cyfnod pontio, gan gynnwys mewn meysydd sydd wedi eu datganoli.
Mae’r pwerau gwario yn cynnwys meysydd datblygiad economaidd, diwylliant, chwaraeon, a chefnogaeth i gyfleoedd addysgol, hyfforddi a chyfnewid.
Bwriad cyhoeddedig y Bil yw creu rheolau cyffredin ledled gwledydd Prydain ar gyfer safonau nwyddau, gwasanaethau a chymwysterau.
Mae Jeremy Miles AS, Gweinidog Pontio Ewropeaidd Llywodraeth Cymru, a Liz Saville-Roberts AS, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, wedi beirniadu’r bil gan ddweud ei fod yn “ailysgrifennu’r cytundeb datganoli,” ac mai dyma’r “ymosodiad mwyaf ar ddatganoli ers iddo gael ei sefydlu.”
Anghofio’r bobol ymysg dadlau gwleidyddol
“On’d yw hi’n drist fod pobol Cymru yn cael eu hanghofio ymysg y dadlau gwleidyddol?” gofynnodd Caroline Jones.
“Mae Llywodraeth Geidwadol Prydain eisiau tanseilio datganoli, mae Llywodraeth Lafur Cymru eisiau tanseilio’r Ceidwadwyr, ac mae Plaid Cymru eisiau defnyddio’r cyfle i hyrwyddo annibyniaeth – daw’r bobol yn ail.”
“Dyma pam ein bod angen mwy o aelodau Annibynnol sydd yn blaenoriaethu’r bobol maent yn eu cynrychioli, yn hytrach na’r pleidiau gwleidyddol, ym Mae Caerdydd,” meddai Caroline Jones.
“Er fy mod yn cytuno efo safbwyntiau Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru fod y bil yn “ymosodiad ar ddatganoli,” rwyf yn cwestiynu eu hamcanion gan nad ydynt wedi dangos yr un parch tuag at ddemocratiaeth yn y gorffennol.
“Bu Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru yn anwybyddu penderfyniad pobol Cymru i adael yr Undeb Ewropeaidd, gan ei wrthwynebu bob gafael.”
Gofyn am ddiywgio datganoli
“Fel cefnogwr i Brexit, roeddwn eisiau gweld diwedd ar benderfyniadau yn cael eu gwneud gan fiwrocratiaid anetholedig, anatebol y Comisiwn Ewropeaidd, ond nid oeddwn am i hyn gael ei gyfnewid am benderfyniadau yn cael eu gwneud gan grŵp pell arall yn San Steffan!” esboniodd Caroline Jones
“Am yr un rhesymau y cefnogais Brexit – hunanlywodraethu a chymryd rheolaeth yn ôl – rwyf yn credu mewn Cymru gref a bywiog o fewn y Deyrnas Unedig, ac rwyf am weld datganoli yn cael ei ddiwygio i fod yn atebol a democrataidd i bobol Cymru.”
“Er fy mod dal i gredu y byddai pethau yn waeth arnom pe na bawn yn rhan o’r Deyrnas Unedig, credaf ei bod yn angenrheidiol fod y pwerau a’r arian oedd yn cael ei ddal gan yr Undeb Ewropeaidd yn cael ei drosglwyddo i Gymru fel bod y Senedd yn gallu dewis sut i’w wario.”
“Nid oes amser gwell i herio’r drefn yng Nghymru na nawr, yn sgil Brexit.
“Mae’n amser cael gwared ar wleidyddiaeth o’r top, sydd yn canolbwyntio ar y pleidiau gwleidyddol, a dechrau ethol aelodau annibynnol sydd yn cysylltu â’u cymunedau ac yn cynnwys y bobol wrth wneud penderfyniadau – gan wario arian trethdalwyr ar eu blaenoriaethau nhw,” mynnodd Caroline Jones.