Mae’r Comisiwn Ewropeaidd wedi galw am drafodaethau brys gyda Phrydain wrth i Lywodraeth Prydain gyhoeddi ei chynlluniau i ddiystyru elfennau allweddol o’r cytundeb gadael a lofnodwyd gan Boris Johnson.

Dywedodd Llywydd y Comisiwn, Ursula von der Leyen, ei bod yn “bryderus iawn” ar ôl i Fil Marchnad Fewnol y DU gael ei gyflwyno i Senedd San Steffan – bil y mae gweinidogion wedi cyfaddef a fydd yn torri cyfraith ryngwladol.

Wrth i drafodaethau barhau yn Llundain ar gytundeb masnach rydd ar ôl Brexit, dywedodd Ursula von der Leyen y byddai camau o’r fath yn “tanseilio ymddiriedaeth”, a galwodd ar y Prif Weinidog i anrhydeddu ei ymrwymiadau.

Trydarodd Mrs von der Leyen: “Pryderus iawn am gyhoeddiadau Llywodraeth Prydain ar ei bwriad i dorri’r Cytundeb Ymadael. Byddai hyn yn torri cyfraith ryngwladol ac yn tanseilio ymddiriedaeth.

“Pacta sunt servanda (rhaid cadw cytundebau) = sylfaen cysylltiadau llewyrchus yn y dyfodol.”

Yna, dywedodd is-lywydd y comisiwn, Maros Sefcovic, ei fod am fynnu cyfarfod brys o gyd-bwyllgor yr UE a’r DU ar y Cytundeb Gadael er mwyn galluogi’r Prydeinwyr i “ymhelaethu” ar eu cynlluniau.

Wrth siarad mewn cynhadledd newyddion ym Mrwsel, dywedodd Mr Sefcovic ei fod wedi nodi ei bryderon mewn galwad ffôn ddydd Mawrth gyda Gweinidog Swyddfa’r Cabinet, Michael Gove, ei gyd-gadeirydd ar y cyd-bwyllgor.

“Nid yw’r Cytundeb Gadael yn agored i’w ailnegodi ac rydym yn disgwyl y bydd […] yn cael ei barchu’n llawn. Rwy’n credu bod yn rhaid i ni fod yn glir iawn,” meddai.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y Deyrnas Unedig ei fod yn croesawu cais Mr Sefcovic am gyfarfod ychwanegol o’r cydbwyllgor ac y byddai’n ceisio cytuno ar ddyddiad gyda’i dîm.