Mae gweithwyr y gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru am elwa o gymorth iechyd meddwl arbenigol gan elusen Mind Cymru.
Ar y cyd ag UNISON Cymru, mae’r elusen yn annog gweithwyr yr NHS a gofalwyr sydd wedi gweithio drwy’r pandemig, i ofyn am gymorth os oes arnynt ei angen.
Gan ddefnyddio arian brys Llywodraeth Cymru, mae Mind Cymru yn cynnig rhaglenni hunan-gymorth chwe wythnos i weithwyr allweddol er mwyn eu cynorthwyo i reoli eu hemosiynau.
Mae’r rhaglenni, dan arweiniad arbenigwyr, wedi eu dylunio er mwyn cynorthwyo unigolion gyda gorbryder, iselder, galar a straen.
Dywedodd Carmen Bezzia, arweinydd UNISON Cymru ar iechyd meddwl, fod “ein gweithwyr iechyd a’n gofalwyr wedi gofalu am ein perthnasau dan amgylchiadau anodd a brawychus.
“Mae eu hymdrechion wedi bod yn arbennig, ond nid oes amheuaeth fod oriau hir yn gofalu am gleifion Covid-19 wedi effeithio ar iechyd meddwl gweithwyr.”
Goblygiadau Covid-19 o ran iechyd meddwl
“Bydd ymdopi gyda goblygiadau’r pandemig o ran iechyd meddwl dros y blynyddoedd nesaf yn her llawn mor anodd â wynebu’r feirws ei hun,” esboniodd.
“Mae UNISON eisiau annog gweithwyr iechyd a gofalwyr sydd angen cymorth arbenigol i ofyn amdano gan Mind Cymru.”
Golyga arian Llywodraeth Cymru fod therapyddion Mind ar gael i gynnig cymorth angenrheidiol i bobol sydd wedi eu heffeithio gan Covid,” esboniodd Sara Moseley, cyfarwyddwr Mind Cymru.
“Gallwn gynnig yr offer i bobol ddeall eu hunain yn well, a’u cefnogi nhw drwy gydol y cwrs gyda galwadau ffôn rheolaidd.”
Dywedodd Sara Moseley fod 600 o unigolion wedi defnyddio’r rhaglen yn y chwe wythnos ddiwethaf, a bod “Mind wedi gofyn i UNISON eu cynorthwyo i gyrraedd miloedd o bobol sydd yn gweithio i’r gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.
“Rydym eisiau helpu cymaint o weithwyr allweddol ac sy’n bosib.”
***
Gall unrhyw un dros 18 oed gael mynediad at y rhaglen drwy wefan Mind.
Dylai unrhyw un sydd yn dioddef o drawma difrifol gysylltu â’r Samariaid ar unwaith, drwy’r llinell gymorth i weithwyr iechyd a gofal yng Nghymru sydd yn cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru.