Mae adroddiad a gyhoeddwyd heddiw (Medi 10) yn dweud bod tystiolaeth glir ac amlwg fod y Senedd yn rhy fach.
Ymhlith yr argymhellion mae cynyddu nifer yr aelodau, cael system etholiadol newydd a chyflwyno mesurau i wella amrywiaeth.
Y llynedd, penderfynodd y Senedd fod angen mwy o aelodau a chrëwyd y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd i drafod sut y gellid cyflawni hynny.
Covid-19 yn amlygu’r angen am newid
“Mae’r ffordd y mae ein Senedd yn gweithredu wedi cael ei rhoi o dan y chwyddwydr yn fwy nag erioed yn ystod yr argyfwng hwn”, meddai Dawn Bowden AS, Cadeirydd y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd.
“Gydag Aelodau’r Senedd a staff yn gweithio gartref, mae’r broses o ailflaenoriaethu busnes y Cyfarfod Llawn a busnes y Pwyllgorau, gan ddefnyddio technoleg er mwyn parhau i weithredu o bell a datblygu ffyrdd newydd o weithio, wedi bod yn brawf o gapasiti’r Senedd.”
Fodd bynnag, mae’r pandemig wedi cael effaith ar waith y pwyllgor a fu hefyd yn craffu ar ymdrechion Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r coronafeirws.
Ychwanegodd Cadeirydd y Pwyllgor: “Heddiw rydym yn gwneud argymhellion clir ar gyfer diwygio ein Senedd a sicrhau bod y sefydliad yn addas ar gyfer y dyfodol, gan roi gwir hyder i bobl Cymru am eu Senedd.
“Mae datganoli wedi bod yn daith gyffrous, ac mae’r Senedd sydd gennym heddiw yn edrych yn hollol wahanol i’r sefydliad a gafodd ei greu dros 20 mlynedd yn ôl.
‘Bydd gwaith craffu effeithiol yn talu am ei hun’
Er bod yr Athro Laura McAllister, Cadeirydd y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad hefyd wedi croesawu’r adroddiad mae wedi galw ar y Aelodau’r Senedd i “weithredu’n effeithiol ar ran pobl Cymru.”
“Ni fydd y drafodaeth ynghylch maint y sefydliad yn diflannu, ac mae angen mynd i’r afael â’r mater hwn cyn gynted ag y bo modd”, meddai.
“Mae’r digwyddiadau a welwyd yn ddiweddar, gan gynnwys y pandemig ac ymadawiad Prydain â’r UE, wedi taflu goleuni pellach ar y mater o gael capasiti priodol i graffu ar weithredoedd y Llywodraeth ac asiantaethau eraill.
“Bydd gwaith craffu effeithiol yn talu am ei hun.”
Hyd at 90 o Aelodau
Mae’r Pwyllgor yn argymell y dylid cynyddu maint y Senedd o 60 Aelod o’r Senedd i hyd at 90.
Awgrymwyd y dylid cyflwyno deddfwriaeth ar gyfer cynyddu maint y Senedd yn fuan ar ôl etholiad 2021, gan ddod i rym o etholiad 2026 ymlaen.
Mae’r argymhelliad hwn yn ategu’r argymhellion a wnaed yn 2017 gan y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad.
Yn ôl yr adroddiad ers sefydlu’r Cynulliad Cenedlaethol yn 1999 mae’r sefydliad wedi newid yn sylweddol, gan arwain at bwysau cynyddol ar ei 60 Aelod.
“Credwn y byddai pobl Cymru yn cael eu gwasanaethu’n well gan Senedd sydd â’r nifer cywir o Aelodau”, meddai Cadeirydd y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd.
“Byddai Senedd fwy yn gost-effeithiol, gan y byddai’r Aelodau’n gallu dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif yn well o ran ei gwariant a’i phenderfyniadau, ac yn gallu pasio gwell deddfwriaeth, yn ogystal â helpu pobl ledled Cymru gyda’u problemau.”
System etholiadol newydd
Ar ôl etholiad 2021 mae’r Pwyllgor yn argymell y dylid cyflwyno deddfwriaeth i Aelodau’r Senedd gael eu hethol drwy system etholiad y Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy (STV) o 2026 ymlaen.
Wrth bleidleisio byddai’r system yn caniatáu i etholwyr roi ymgeiswyr yn eu trefn ac yn arwain at ostyngiad posibl mewn pleidleisiau gwastraff neu bleidleisio tactegol.
Yn ei dro, mae’r pwyllgor o’r farn byddai hyn yn annog Senedd fwy amrywiol.
Y Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy oedd yr opsiwn a ffafriwyd gan nifer o’r rhai a ymatebodd i ymgynghoriad y Pwyllgor.
Cynyddu amrywiaeth
“Dylai cynyddu nifer Aelodau’r Senedd fynd law yn llaw â chynyddu amrywiaeth y sefydliad”, yn ôl Cadeirydd y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd.
“Mae ein Senedd yn gwneud penderfyniadau sy’n effeithio ar bawb yng Nghymru. Dylai pobl a chymunedau amrywiol ein gwlad fod yn gallu gweld eu hunain yn cael eu hadlewyrchu yn ei haelodaeth.”
Mae’r Pwyllgor wedi amlinellu cyfres o argymhellion er mwyn gwella amrywiaeth y Senedd, gan gynnwys helpu pobl ag anableddau i ymgeisio, gofal plant, a threfniadau rhannu swyddi.
Yn ogystal â hyn, argymhellir y dylai fod yn ofynnol i bleidiau gwleidyddol gyhoeddi strategaethau amrywiaeth a chynhwysiant.
‘Ychydig iawn o aelodau sydd wedi bod o gefndiroedd BAME’
Mae Cyngor Hil Cymru a Thîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid Cymru wedi croesawu’r adroddiad.
“Mewn ugain mlynedd, ers datganoli Cymru, ychydig iawn o aelodau sydd wedi bod o gefndiroedd Du, Asiaidd neu leiafrifoedd ethnig, heb gynrychiolaeth gan ferched Du, Asiaidd na Mwslimaidd hyd yma”, meddai Rocio Cifuentes, Prif Swyddog Gweithredol Tîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid Cymru.
“Yn sicr, mae angen i hyn newid a rhaid i’n harweinyddiaeth wleidyddol gynrychioli pobl amrywiol Cymru yn fwy cywir.”
Er hyn rhannodd Patience Bentu o Gyngor Hil Cymru ei bryderon bod Cronfa Mynediad i Swyddi Etholedig yn gyfyngedig i gefnogi pobl anabl i sefyll mewn etholiadau.
Mae’n awgrymu dylai gael ei ymestyn i grwpiau eraill sy’n wynebu rhwystrau ariannol, megis menywod BAME a menywod o gartrefi incwm isel.
Croesawodd Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru’r argymhellion hefyd, ac wedi galw ar yr holl bleidiau i ddatgan eu hymrwymiad er mwyn cefnogi amrywiaeth yng ngwleidyddiaeth Cymru.
Ymateb Cymdeithas Diwygio Etholiadol Cymru
Mae Cymdeithas Diwygio Etholiadol Cymru wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ddeddfu’r diwygiadau hyn ystod rhan gyntaf tymor nesaf y Senedd.
“Mae ymhell dros bymtheg mlynedd ers i gynnydd ym maint y Senedd gael ei argymell gyntaf”, meddai Jess Blair, Cyfarwyddwr Cymdeithas Diwygio Etholiadol Cymru.
“Yn yr amser yma mae’r Senedd wedi cael mwy o bwerau, ond does ganddi ddim digon o allu i graffu ar ddeddfwriaeth yn iawn a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif.
“Mae gwleidyddion ym mhob plaid yn cydnabod yr angen am ddiwygio, ond mae gormod yn dewis troi’r mater yn un gwleidyddol, gan osgoi gwneud y penderfyniad hanfodol a fyddai’n rhoi’r llais pobl Cymru yn ei haeddu.
“Mae craffu cryfach yn talu ffordd. Gadewch i ni roi hwb i ddemocratiaeth Cymru ac adeiladu Senedd sy’n addas ar gyfer heriau’r dyfodol. ”
Ymateb y gwrthbleidiau
Dywedodd Llefarydd ar ran Democratiaid Rhyddfrydol Cymru ei bod nhw’n “cefnogi’r cynnig hwn yn llwyr ac yn annog pleidiau eraill i wneud yr un peth.”
“Rydym wedi galw ers amser maith am system bleidleisio ddemocrataidd. Bydd yn rhoi pŵer cyfartal i bleidleisiwr ac yn rhoi Senedd gynrychioliadol i bobl Cymru.
“Mae Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy mor syml y gall hyd yn oed plentyn ei ddeall. Fe’i defnyddir mewn seneddau ledled y byd yn ogystal â chlybiau chwaraeon a chymdeithasau oherwydd ei symlrwydd a’i degwch.”
Yn ôl Plaid Cymru byddai cynyddu’r nifer o Aelodau’r Senedd yn werth am arian, yn enwedig i gymharu â’r pum biliwn sydd wedi ei wario yn adnewyddu San Steffan yn ddiweddar.
“Ar adeg pan mae datganoli o dan ymosodiad uniongyrchol gan San Steffan mae angen hyn fwy nag erioed”, meddai Adam Price, Arweinydd Plaid Cymru.
“Mae ein Senedd yn rhy fach a gall hynny’n achosi perygl mawr i’n democratiaeth.
“Er gwaethaf cael digon o gyfle dros y pum mlynedd diwethaf, mae’r blaid Lafur wedi gwrthod cyflwyno Senedd gryfach.
“Nid yw hon yn broblem y gellir ei gohirio tan yfory – mae’n argyfwng democrataidd mae’n rhaid i ni ei unioni heddiw.”
Ond mae Paul Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig wedi gwrthwynebu’r awgrymiadau.
“Mae hwn yn adroddiad sy’n cynrychioli barn dwy blaid yn unig yn Senedd Cymru ac ar hyn o bryd nid yw’r cyhoedd eisiau cynnydd yn nifer y gwleidyddion”, meddai.
“Mae’r system bleidleisio bresennol yn ein galluogi i ni gael Senedd gyfrannol tra’n cynnal atebolrwydd lleol gyda dwy ran o dair o Aelodau Senedd Cymru wedi’u hethol ar sail y cyntaf i’r postyn – dydym ddim yn gweld unrhyw reswm dros ei newid.”