Mae’r bunt wedi syrthio i’w lefel isaf yn erbyn Doler yr Unol Daleithiau ers mis Gorffennaf yng nghanol pryderon cynyddol ynghylch cynlluniau dadleuol Boris Johnson i ddiystyru rhannau o’i gytundeb Brexit â’r Undeb Ewropeaidd.

Gwaethygodd sefyllfa’r bunt wrth i Mr Johnson wynebu ASau dig ynghylch ei gynlluniau negodi Brexit yng Nghwestiynau’r Prif Weinidog. Plymiodd y bunt 2.1% arall i’w lefel isaf am chwe wythnos – sef ychydig o dan 1.29 doler.

Roedd y bunt hefyd 1.7% yn is o gymharu â’r ewro, ar 1.10 ewro, wrth i’r Llywodraeth gael ei chyhuddoi o fod yn fodlon torri cyfraith ryngwladol gyda’i chynlluniau i beidio â glynu wrth elfennau o’r Cytundeb Ymadael.

Ymddiswyddodd Syr Jonathan Jones, pennaeth Adran Gyfreithiol y Llywodraeth, ddydd Mawrth, yng nghanol ffrae gyda Stryd Downing ynghylch y cynlluniau.

Ac ers hynny mae sawl Ceidwadwr wedi rhybuddio am y risgiau o danseilio statws ac enw da Prydain fel gwladwriaeth sy’n cynnal cyfraith ryngwladol.

Banc Lloegr am weithredu?

Dywedodd arbenigwyr ym maes arian fod y bunt hefyd yn cael ei tharo gan bryderon y gallai trafodaethau Brexit annog Banc Lloegr i weithredu.

Dywedodd Fawad Razaqzada, dadansoddwr marchnad yn ThinkMarkets: “Mae buddsoddwyr yn betio y bydd ansicrwydd o’r newydd o ran Brexit yn golygu mwy o weithredu ariannol gan Fanc Lloegr.

“Mae’r ansicrwydd ynghylch sefyllfa fasnach y DU a’r UE wedi cynyddu’r tebygorwydd y bydd y DU yn cyrraedd diwedd y cyfnod pontio heb gytundeb.

“Gydag amser yn rhedeg allan yn gyflym, mae rhai buddsoddwyr yn dod yn fwyfwy pesimistaidd y bydd cytundeb yn cael ei wneud mewn pryd.”

Nid yw cwymp y bunt yn newyddion drwg i bawb – mae llawer o gwmnïau yn haen uchaf y farchnad stoc yn elwa o’r bunt yn gostwng gan eu bod yn gwneud y rhan fwyaf o’u refeniw dramor.