Mae Pennaeth Adran Gyfreithiol Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi ymddiswyddo, a hynny, yn ôl y Financial Times, ar sail bwriad y Llywodraeth i ddiystyru elfennau o’r cytundeb Brexit yr ymrwymodd iddynt y llynedd.

Cafodd ymddiswyddiad Syr Jonathan Jones ei gadarnhau gan Swyddfa’r Twrnai Cyffredinol.

“Gallaf gadarnhau bod Syr Jonathan wedi ymddiswyddo ond ni allaf wenud sylw pellach,” meddai llefarydd ar ran Swyddfa’r Twrnai Cyffredinol.

Dyma’r chweched was sifil blaenllaw i ymddiswyddo eleni yn sgil tensiwn rhwng swyddogion a Stryd Downing.

Dywedodd Twrnai Cyffredinol Cysgodol Llafur, Yr Arglwydd Falconer: “Mae Jonathan Jones yn gyfreithiwr nodedig, yn berson da ac yn was sifil ffyddlon.

“Os nad yw ef yn gallu parhau mewn gwasanaeth cyhoeddus, mae’n rhaid bod yno rhywbeth o’i le â’r Llywodraeth.”

Daw’r ymddiswyddiad wrth i wythfed rownd o drafodaethau masnach rhwng y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd ddechrau yn Llundain ddydd Mawrth (Medi 8).

Mae ffigyrau blaenllaw yr Undeb Ewropeaidd yn siomedig gyda awgrymiadau y gallai deddfwriaeth Brexit newydd, sy’n cael ei gyflwyno ddydd Mercher (Medi 9), ddiystyru elfennau o’r cytundeb a gafodd ei arwyddo gan Boris Johnson y llynedd.

Rhybuddiodd Llywydd y Comisiwn Ewropeaidd, Ursula von der Leyen, na allai’r Deyrnas Unedig fynd yn ôl ar ei ymrwymiadau blaenorol os oes gobaith o gytuno ar gytundeb masnach rydd.

Ac mae Gweinidog Tramor Iwerddon, Simon Coveney, wedi rhybuddio y byddai cefnu ar y gytundeb yn “ffordd annoeth iawn o weithredu.”