Gallai hyd at £3.5 biliwn o arian ffyrlo fod wedi ei dalu drwy dwyll neu gamgymeriad yn ôl y Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC).
Cadarnhaodd llefarydd ar ran y Prif Weinidog fod nifer o ymchwiliadau troseddol ar y gweill i amheuaeth o dwyll a bod un person eisoes wedi’i arestio.
27,000 o hawliadau risg uchel
Dywedodd llefarydd ar ran y Prif Weinidog y byddai “popeth posib” yn cael ei wneud i geisio cael arian trethdalwyr a hawliwyd yn dwyllodrus yn ôl.
“Mae gan HMRC systemau soffistigedig ar waith i asesu pob hawliad ac i atal arian rhag cael ei dalu’n anghywir yn y lle cyntaf,” meddai’r llefarydd.
“Ar hyn o bryd maen nhw’n edrych i mewn i 27,000 o hawliadau risg uchel le maen nhw’n credu bod gwall difrifol neu hawliad twyllodrus wedi’i wneud.
“Lle mae camgymeriadau dilys wedi digwydd bydd HMRC yn gweithio gyda chyflogwyr i gywiro hawliadau ond os amheuir bod unrhyw hawliad o dwyll neu ei fod yn seiliedig ar wybodaeth anonest ac anghywir, gellir dal taliadau yn ôl neu ofyn iddynt eu had-dalu.
“Ni fydd HMRC yn petruso cyn cymryd camau cyfreithiol yn yr achosion mwyaf difrifol.”
Mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos bod y Cynllun Cadw Swyddi, sy’n talu 80% o gyflogau gweithwyr, wedi costio £35.4 biliwn i Lywodraeth y Deyrnas Unedig hyd yn hyn.
Er bod rhai gwleidyddion wedi galw am ymestyn y Cynllun Cadw Swyddi bydd yn dod i ben ddiwedd fis Hydref.