Mae Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd, wedi dweud bod “gwaed ar ddwylo” pobol a ddaeth ynghyd yn y brif ddinas heddiw oedd yn honni fod Covid-19 yn ffug.

“Efallai bod hyn yn edrych fel jôc, ond mewn gwirionedd mae’n hynod beryglus”, meddai Huw Thomas.

“Rydw i wedi treulio’r awr ddiwethaf yn mynd trwy’r ffigurau covid-19 diweddaraf yng Nghaerdydd.

“Mae’n glir bod achosion yn cael eu lledaenu o ganlyniad i ymbellhau cymdeithasol gwael.

“Yn fy marn i, mae gan bobol sy’n annog ymddygiadau o’r fath waed ar eu dwylo.”

Roedd 21.3 o achosion fesul 100,000 o’r boblogaeth yng Nghaerdydd bythefnos yn ôl, mae bellach wedi gostwng i 13.1.

Cafodd pump o dafarndai yn ganol y ddinas rybudd wythnos yma gan Gyngor Caerdydd am fethu cydymffurfio â mesurau iechyd a diogelwch Covid-19.

Piers Corbyn eisoes wedi ei arestio bedair gwaith

Yn annerch y dorf tu allan i Gastell Caerdydd brynhawn dydd Mawrth (Medi 8) oedd Piers Corbyn, brawd y cyn-arweinydd Llafur Jeremy Corbyn.

Roedd yn galw am ddod a’r cyfyngiadau’r coronafeirws i ben ac yn trafod y cyswllt honedig rhwng y feirws a thechnoleg 5G.

“Ychydig ddyddiau yn ôl cefais fy arestio am y pedwerydd tro oherwydd covid, a hefyd cael fy nirwyo am y pedwerydd tro – dydw i heb dalu ceiniog mewn unrhyw ddirwy, a dydw i ddim yn bwriadu gwneud hynny.” meddai Piers Corbyn.

“Maen nhw’n dweud y byddan nhw’n mynd ati i wneud brechlyn i rywbeth na allan nhw weld na gwybod dim amdano, mae hynny’n nonsens llwyr.

Yn ystod yr araith mae’n cymharu’r sefyllfa i fanana ac yn taflu un i’r dorf sydd wedi ymgynnull ar Stryd y Castell.

“Mae fel nofel Agatha Christie, lle mae’n gofyn a oes dyn yn yr ystafell? Does dim esgidiau na dim yna, ac yna mae’n gweld bod banana yn yr ystafell.

“Mae gan fanana 60% o’r un DNA â dyn, felly mae’n rhaid bod dyn yn yr ystafell. Mae’n nonsens llwyr!”

Ar ddiwedd ei araith roedd y dorf i glywed yn gweiddi: “Dim brechu, dim tracio nag ymbellhau, achubwch fywydau.”