Mae angen y mesurau newydd a gyflwynwyd ar gyfer lleoliadau lletygarwch yn Bolton i atal trosglwyddo Covid-19 sy’n “symud o gwmpas heb reolaeth”, meddai arweinydd cyngor.
Mae’r Llywodraeth wedi gorchymyn bwytai, caffis, bariau a thafarndai i gael eu cyfyngu ar unwaith i wasanaeth cludo yn unig a bydd yn ofynnol i bob lleoliad lletygarwch gau rhwng 10pm a 5am.
Bydd cymysgu y tu allan i aelwydydd mewn lleoliadau awyr agored cyhoeddus hefyd yn cael ei wahardd.
Roedd y rhan fwyaf o achosion newydd yn gysylltiedig â phobl 18 i 49 oed.
“Heb reolaeth”
Dywedodd arweinydd Ceidwadol Cyngor Bolton, y cynghorydd David Greenhalgh: “Nid yw hyn yn rhywbeth rydym am ei wneud ond mae’n amlwg bod y feirws yn symud o gwmpas y fwrdeistref heb reolaeth ar hyn o bryd ac felly mae angen i ni atal y gyfradd drosglwyddo.
“Mae’r gyfradd wedi codi o 15 achos ym mhob 100,000 i dros 120 o fewn pythefnos, ac os na fyddwn yn cael rheolaeth dros y feirws nawr byddwn yn parhau i roi ein preswylwyr mwyaf agored i niwed mewn perygl ac yn peri oedi cyn dychwelyd i normalrwydd.
“Rydym yn gweithio ar draws y cyngor gyda’r Llywodraeth a’n partneriaid i leihau nifer yr achosion o’r feirws marwol hwn ac yn parhau i bwyso ar y Llywodraeth am gymorth ychwanegol i’r sector lletygarwch wrth iddynt orfod cau eu drysau unwaith eto.
“Y ffordd orau o wneud hynny yw cyfyngu ar nifer y cysylltiadau sydd gan bobl. Peidiwch â chael camargraff, rydym yn y sefyllfa hon oherwydd gweithredoedd anghyfrifol ychydig o bobl – mae wedi arwain at sefyllfa lle mae ein cyfraddau ar lefel lle nad oedd gan y Llywodraeth ddewis ond gweithredu.”
Beirniadu’r llywodraeth
Dywedodd arweinydd Llafur Bolton, y Cynghorydd Nick Peel: “Mae’r Llywodraeth yn euog o dynnu ei llygad oddi ar y bêl – dangoswyd hyn drwy ei negeseuon a’i chyfathrebu cynyddol ddryslyd, gyda’i chyfyngiadau blaenorol yn cael eu gweld gan lawer yn rhai rhy gynnar.
“Maent wedi rhoi’r argraff eu bod yn fwy hamddenol am gyfradd y trosglwyddiadau, ac wrth gwrs mae’r boblogaeth wedi sylwi ar hyn. Mae hyn wedi arwain at lawer o bobl naill ai’n anwybyddu’r cyfyngiadau neu’n methu â’u deall yn llawn, na deall yr angen amdanynt.
“Rwy’n amau’n fawr mai Bolton fydd y diwedd o ran cyfyngiadau ychwanegol.”
‘Dim dewis arall’
Dywedodd Dr Helen Lowey, cyfarwyddwr iechyd cyhoeddus y cyngor: “Rwy’n sylweddoli y bydd y newyddion hyn yn siomedig ac yn peri pryder ond nid yw hwn yn benderfyniad rydym wedi’i wneud yn ddifater.
“Gallwn eich sicrhau ein bod wedi ystyried yr holl ddata ac nad oes gennym ddewis arall.”