Mae Gweinidog Brexit Cymru, Jeremy Miles, wedi cyhuddo Llywodraeth y Deyrnas Unedig o “ymosod ar ddemocratiaeth” o ran deddfwriaeth arfaethedig ar gyfer diwedd y cyfnod pontio Brexit.

Beirniadodd Jeremy Miles Lywodraeth San Steffan am “aberthu dyfodol yr undeb drwy ddwyn pwerau oddi wrth weinyddiaethau datganoledig”, galwodd hynny’n “sarhad” i bobl Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Bil y Farchnad Fewnol

Nod Bil y Farchnad Fewnol yw disodli rheoliadau’r Undeb Ewropeaidd sydd ar hyn o bryd yn rheoli masnach a buddsoddi ym Mhrydain. Wrth wneud hyn, mae’n rhoi pwerau gwariant a chymorth gwladwriathol yn nwylo Llywodraeth y Deyrnas Unedig, yn erbyn ewyllys y llywodraethau datganoledig.

Byddai’r Bil yn newid y sefyllfa bresennol – sef mai Gweinidogion yng Nghaerdydd sydd â’r gair olaf am brosiectau Cymreig, megis ffordd liniaru’r M4.

Safbwynt Llywodraeth y Deyrnas Unedig

Fodd bynnag, mae Llywodraeth y DU yn cyfiawnhau hyn drwy ddweud na fyddai’n golygu diystyru dymuniadau pobl yng Nghymru, gan y byddai angen cefnogaeth ASau Cymru a llywodraeth leol.

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig hefyd wedi mynnu y bydd Bil y Farchnad Fewnol yn trosglwyddo mwy o bwerau i’r llywodraethau datganoledig, gyda Senedd Cymru yn cael “pŵer dros fwy o faterion nag a oedd ganddynt erioed o’r blaen”, gan gynnwys ansawdd aer, effeithlonrwydd ynni adeiladau, ac elfennau o gyfraith cyflogaeth, a hynny heb gael gwared ar unrhyw bwerau cyfredol.

Dywedodd Ysgrifennydd Busnes Llywodraeth y Deyrnas Unedig, Alok Sharma, y byddai’r ddeddfwriaeth yn diogelu “marchnad integredig iawn” y DU drwy warantu y gall cwmnïau barhau i fasnachu yn ddiffwdan ym mhob rhan o’r DU ar ôl i’r cyfnod pontio ddod i ben.

Ychwanegodd: “Heb y diwygiadau angenrheidiol hyn, gallai’r ffordd rydym yn masnachu nwyddau a gwasanaethau rhwng y gwledydd cartref gael ei heffeithio’n ddifrifol, gan niweidio’r ffordd rydym yn gwneud busnes o fewn ein ffiniau ein hunain.

“Nid dyma’r amser i greu ansicrwydd i fusnesau gyda rhwystrau newydd a chostau ychwanegol a fyddai’n chwalu ein gobeithion o adferiad economaidd.”

Datganiad Jeremy Miles

Ond mae Mr Miles, y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Pontio Ewropeaidd, wedi wfftio hyn yn chwyrn, a dywedodd mewn datganiad:

“Rydw i wedi cael galwad o’r diwedd gydag ysgrifennydd gwladol BEIS, Alok Sharma, ac yn ystod y sgwrs cefais fy mriffio ar rywfaint o gynnwys drafft Bil Marchnad Fewnol y DU – rhyw ddwy awr ar ôl i’r cyfryngau dderbyn yr un cwrteisi. Mae’n glir i mi nad yw ein pryderon ni ar ran pobl Cymru wedi cael sylw ac y bydd Bil y Farchnad Fewnol yn adlewyrchu’r Papur Gwyn.

“Gadewch i mi fod yn glir – mae Llywodraeth y DU yn bwriadu aberthu dyfodol yr undeb drwy ladrata pwerau oddi ar y gweinyddiaethau datganoledig. Mae’r Bil yn ymosodiad ar ddemocratiaeth ac yn sarhad ar bobl Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, sydd wedi pleidleisio o blaid datganoli ar sawl achlysur.

“Efallai bod eu cynigion ar gyfer cydnabyddiaeth gilyddol yn swnio’n synhwyrol ond maent yn wn tanio i ras i’r gwaelod, gan danseilio’r safonau uchel rydyn ni’n eu mwynhau ar hyn o bryd o ran safonau bwyd, lles anifeiliaid a’r amgylchedd.

“Dylai penderfyniadau allweddol ynghylch cefnogaeth i fusnesau Cymru, cyfleoedd buddsoddi a seilwaith pwysig a diogelwch y bwyd ar silffoedd archfarchnadoedd Cymru gael eu gwneud yng Nghymru gan lywodraeth Cymru, a gyda chaniatâd y Senedd – ac nid ar orchymyn Ceidwadwyr y meinciau cefn.

“Mae Llywodraeth y DU yn mynd ati’n benodol i geisio ailysgrifennu’r setliad datganoli. Mae’r ffaith eu bod hefyd yn ceisio deddfwriaeth sylfaenol yn dangos eu bod yn cymryd y pwerau hynny oddi arnom ni.

“Rydyn ni’n credu yn yr egwyddor o farchnad fewnol – ond nid yw’r bil hwn yn angenrheidiol mewn unrhyw ffordd i gyflawni hynny. Byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i herio’r cipio pŵer yma a’r ras i’r gwaelod mae’r bil hwn yn ei chynrychioli.”

Sylwadau Mark Drakeford

Mae’r Prif Weinidog, Mark Drakeford, wedi dweud wrth Times Radio bod cyhoeddi Bil y Farchnad Fewnol yn “ddiwrnod gwael iawn” i’r Deyrnas Unedig:

“Mae’r Bil hwn yn gipiad enfawr o bŵer, mae’n cymryd pwerau sydd wedi bod yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon ers dechrau datganoli, ers 20 mlynedd.

“Mae’n ddiwrnod gwael iawn i’r undeb oherwydd bydd hyn yn rhoi straen enfawr ar undeb y Deyrnas Unedig. Mae’r rheini ohonom sy’n credu yn y Deyrnas Unedig ac sydd am iddo lwyddo yn meddwl bod hwn yn ddiwrnod gwael iawn yn wir.”

Ymateb Plaid Cymru

Mae Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, wedi ymateb ar Twitter:

“Felly beth rydyn ni wedi’i ddysgu… Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gwrthod unrhyw bwerau trethu newydd i Gymru (i ddatrys ein hargyfwng tai er enghraifft) ond mae wedi rhoi pwerau iddi hi ei hun i ariannu prosiectau yng Nghymru (gan gynnwys Llwybr Du’r M4) yn erbyn dymuniadau’r Senedd.

“Nid cipio pŵer yw hyn ond chwalu datganoli. Annibyniaeth yw’r unig ffordd ymlaen yn awr, siawns.

“Efallai y bydd hanes yn cofio hyn fel y diwrnod y bu farw Datganoli. Beth am wneud yn siŵr ei fod hefyd yn cael ei weld fel y diwrnod y daeth Annibyniaeth yn anochel.

“Ethol Llywodraeth sydd o blaid annibyniaeth fis Mai nesaf yw’r ymateb gorau i ymgais San Steffan i fwlio Cymru.”