Mae Llywodraeth Cymru wedi ychwanegu tair ynys yng Ngwlad Groeg i’w rhestr cwarantin.
Ers 4yb bore dydd Mercher (Medi 9), mae’n rhaid i deithwyr sy’n dychwelyd i Gymru o ynysoedd Sanorini, Serifos a Tinos hunan ynysu am bythefnos.
“Ar Orffennaf 10, diwygiodd Llywodraeth Cymru’r Rheoliadau i gyflwyno eithriadau i’r gofyniad i ynysu ar gyfer rhestr o wledydd a thiriogaethau, ac ystod gyfyngedig o bobl mewn sectorau neu gyflogaeth arbenigol a allai fod wedi’u heithrio rhag y gofyniad i ynysu neu rhag rhai o ddarpariaethau’r gofynion ynghylch gwybodaeth teithwyr,” meddai Vaughan Gething mewn datganiad ysgrifenedig.
“Ers hynny, mae’r rheoliadau hyn wedi’u hadolygu’n gyson ac mae nifer o newidiadau wedi’u gwneud i’r rhestr o wledydd a thiriogaethau sydd wedi’u heithrio.
“Ddoe, adolygais yr asesiadau JBC diweddaraf ac rwyf wedi penderfynu y bydd ynysoedd Groeg Sanorini, Serifos a Tinos yn cael eu tynnu o’r rhestr o wledydd a thiriogaethau esempt,” meddai Vaughan Gething mewn datganiad ysgrifenedig.
Cyn hyn, mae Mr Gething wedi amddiffyn cyflwyno cyfyngiadau cwarantîn, sydd hefyd yn berthnasol i deithwyr sy’n dod o Bortiwgal, Gibraltar a Pholynesia Ffrainc.
Yr wythnos ddiwethaf dywedodd fod “llif cynyddol o heintiau” wedi dod o ynysoedd Groeg a mynnodd fod y mesur wedi’i osod i gadw Cymru’n ddiogel.