Mae un o brif gyflogwyr y gogledd ddwyrain wedi derbyn cymorth o £622,000 gan Gronfa Cydnerthedd Economaidd Llywodraeth Cymru.

Mae cwmni Kronospan, o’r Waun ger Wrecsam, sy’n cynhyrchu paneli pren yn cyflogi 620 o weithwyr.

Roedd y cwmni wedi gweld gostyngiad sylweddol mewn gwerthiant o ganlyniad i’r pandemig.

“Mae’r cymorth a roddwyd gan Lywodraeth Cymru wedi helpu inni warchod swyddi a chefnogi ein cyflenwyr lleol”, meddai Ben Spruce, prif swyddog ariannol Kronospan.

“Mae wedi bod yn gyfnod anodd i bawb, ac rydyn ni’n hynod ddiolchgar i’n tîm cyfan, y rhai sydd wedi gweithio drwy gydol y cyfnod a’r rhai oedd ar ffyrlo ac sydd bellach wedi dychwelyd.

“Mae Kronspan yn gyflogwr pwysig yng Ngogledd-ddwyrain Cymru, ac rwy’n falch iawn ein bod wedi gallu darparu’r cymorth ariannol hollbwysig yn ystod cyfnod pan oedd y cwmni ei angen fwyaf, gan helpu i warchod cannoedd o swyddi”, meddai Lee Waters, Dirprwy Weinidog yr Economi.

“Mae’r coronafeirws wedi creu heriau hynod anodd i’n cymuned fusnes a’n hymateb cyntaf oedd ceisio gwarchod cwmnïau, swyddi a bywoliaeth pobl drwy becyn o gymorth nas gwelwyd mo’i debyg, yn cael ei gynnig ar unwaith, gwerth £1.7 biliwn.

“Mae ein Cronfa Cadernid Economaidd wedi bod yn rhan allweddol o hynny ac yn hanfodol er mwyn cefnogi miloedd o fusnesau ledled Cymru, a delio gydag effeithiau economaidd y pandemig.”

Gwarchod 75,000 o swyddi

Mae’r Gronfa Cadernid Economaidd, sy’n rhan o becyn cymorth gwerth £1.7 biliwn Llywodraeth Cymru i fusnesau.

Hyd yma, mae dros 13,000 o fusnesau wedi derbyn cymorth ariannol gwerth dros £280miliwn ac mae’r gronfa wedi helpu i warchod dros 75,000 o swyddi.