Mae rheolau newydd sy’n gwahardd mwy na chwech o bobol rhag ymgynnull yn allweddol er mwyn achub bywydau meddai Gweinidog Iechyd Llywodraeth y Deyrnas Unedig, Matt Hancock.

Bydd y newid mewn cyfraith yn dod i rym yn Lloegr ddydd Llun (Medi 14).

Daw hyn ar ôl i nifer yr achosion o’r coronaferiws yn Lloegr godi yn sylweddol dros yr wythnos ddiwethaf.

Bydd y rheolau newydd mewn grym tu mewn a thu allan, gan gynnwys tai, parciau, tafarndai a bwytai.

Wrth drafod y rheolau newydd, dywedodd wrth Sky News: “Mae dilyn y rheolau yn allweddol er mwyn achub bywydau.

“Yn anffodus, rydym wedi gweld cynnydd mewn niferoedd o achosion yn y diwrnodau diwethaf.

“Rydym yn benderfynol o weithredu er mwyn cadw pobol yn saff.”

Saib mewn treialon brechlyn “ddim o reidrwydd yn rhwystr”

Daw hyn wrth i Matt Hancock hefyd ddweud bod saib mewn treialon brechlyn “ddim o reidrwydd yn rhwystr.”

Mae treialon brechlyn oedd yn cael ei ddatblygu gan AstraZeneca a Phrifysgol Rhydychen wedi gorfod cael ei ohirio ar ôl i glaf fynd yn sâl.

Dywedodd Matt Hancock bod mater wedi codi mewn treial yn yr haf a gafodd ei “ddatrys heb broblem.”

“Byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod unrhyw frechlyn yn sâff ac effeithiol,” meddai.

Rheolau gweddill y Deyrnas Unedig

Yng Nghymru, mae hyd at 30 o bobol yn cael cyfarfod tu allan, tra bod caniatâd i 15 ymgynnull yng Ngogledd Iwerddon.

Yn yr Alban, mae hyd at wyth o bobol yn cael ymgynnull tu fewn, tra bod grwpiau o 15 o hyd at bump tŷ gwahanol yn cael cyfarfod tu allan, ond mae’n rhaid cadw pellter cymdeithasol.