Mae Nicola Sturgeon wedi mynnu fod deddfwriaeth arfaethedig gan Lywodraeth Prydain, sydd yn gosod seiliau masnachol o fewn Prydain ar gyfer diwedd y cyfnod pontio Brexit, yn “ymosodiad amlwg ar ddatganoli.”

Siaradodd Prif Weinidog yr Alban yn erbyn cynigion Bil y Farchnad Fewnol, gan ychwanegu fod gweinidogion yng Nghymru wedi lleisio eu pryderon fod y bil yn “dwyn” pwerau datganoledig.

Daeth ei sylwadau ar ôl i weinidogion Llywodraeth Prydain fynnu y bydd y Bil newydd yn cynnig mwy o bwerau i lywodraethau datganoledig yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon.

Mynnodd Alistair Jack, Ysgrifennydd yr Alban yn Llywodraeth y Deyrnas Unedig, fod y bil yn angenrheidiol, a hebddo byddai swyddi yn yr Alban “dan fygythiad difrifol.”

Ar Ionawr 1, pan fydd y cyfnod pontio Brexit yn dod i ben, fydd pwerau yn dychwelyd i’r Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon, yn ôl Llywodraeth Prydain.

“Gall yr Alban wneud yn well.”

Pwysleisiodd Nicola Sturgeon y bydd Bil y Farchnad Fewnol yn “ymosodiad amlwg ar ddatganoli.”

Mewn trydariad dywedodd, “Yn etholiadau seneddol nesaf yr Alban, bydd yr SNP yn dadlau dros annibyniaeth.

“Nid yw hyn yn fater o annibyniaeth yn erbyn trefn arferol datganoli.

“Mae wnelo hyn â’r ffaith mai annibyniaeth yw’r unig ffordd i warchod Senedd yr Alban, a sicrhau na fydd ein senedd yn cael ei thanseilio, na’i phwerau yn diflannu,” mynnodd.

“Yn ogystal, mae Llywodraeth Prydain yn torri cyfraith ryngwladol wrth gyflwyno’r Bil, er eu bod yn ymwybodol eu bod yn gwneud hynny.

“Y llywodraeth yma yn San Steffan yw’r un mwyaf diofal (ac anghymwys, ar ben hynny) a diegwyddor i fod mewn grym yn ystod fy mywyd,” meddai Nicola Sturgeon.“Gall yr Alban wneud yn well, a byddwn yn gwneud y dewis hwnnw.”

Y bil am gael “effaith andwyol” ar yr economi

Mae Mike Russell, Ysgrifennydd Cyfansoddiadol Llywodraeth yr Alban, wedi addo na fydd Llywodraeth yr Alban yn rhoi caniatâd i’r bil, a fydd yn cael ei gyflwyno yn San Steffan heddiw (Medi 9).

Mynnodd na fydd gweinidogion yr Alban yn rhoi “caniatâd i ddeddfwriaeth sy’n tanseilio datganoli a Senedd yr Alban, ac sydd am dorri cyfraith ryngwladol.”

“Bydd y bil hwn yn agor y drws i gytundebau masnach gwael, ac yn ymosod ar ddatganoli mewn modd nad ydym wedi ei weld ers i Senedd yr Alban gael ei sefydlu.”

“Ni fedrwn, a ni wnawn, adael i hynny ddigwydd,” pwysleisiodd Mike Russell.

“Bydd y Bil yn golygu fod dirywiad mewn safonau bwyd, safonau amgylcheddol, a bydd yn peryglu polisïau iechyd cyhoeddus allweddol.

“Pe bai gan wledydd eraill amheuaeth o allu gwledydd Prydain i gyrraedd gofynion masnachol, byddai’n anoddach i Lywodraeth Prydain ddod i gytundebau masnachol yn y farchnad rydd.

“Bydd hyn yn cael effaith andwyol ar economi’r Alban.”