Mae cynllun newydd gan Bwyllgor Dysgu Cymraeg yr Eisteddfod Genedlaethol yn gobeithio “ehangu apêl yr Eisteddfod” yng Ngheredigion.
Bydd cynllun ‘Byddwch yn un o’r miliwn’ yn rhoi’r cyfle i ddysgwyr Cymraeg brwd ar draws y sir i gael cefnogaeth aelodau o bwyllgorau apêl lleol wrth iddyn nhw fynd ati i ddysgu’r iaith.
Gyda’r rhan fwyaf o’r gwaith codi arian wedi’i gwblhau, hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth yw blaenoriaeth y pwyllgorau dros y flwyddyn nesaf.
Roedd disgwyl i’r ŵyl gael ei chynnal yn Nhregaron ym mis Awst.
‘Codi ymwybyddiaeth’
“Ry’n ni’n awyddus i ddefnyddio’r flwyddyn nesaf yn codi ymwybyddiaeth am y brifwyl ac i ddenu rhagor o bobl i fod yn rhan o’r gweithgareddau cyffrous”, meddai Medi James, Cadeirydd y Pwyllgor Dysgu Cymraeg.
“Y nod yw denu dysgwyr i gychwyn a pharhau â gwersi Cymraeg yn y gobaith y byddan nhw’n barod i weithio ar y maes y flwyddyn nesaf, gyda hyn yn rhoi hwb iddyn nhw barhau gyda’r dysgu.”
Nod y pwyllgor yw cynnig cyfleoedd ategol i ddysgwyr sgwrsio gyda siaradwyr Cymraeg dros y gaeaf, er mwyn datblygu’u hyder, fel eu bod yn barod i gymryd rhan a chynorthwyo yn yr Eisteddfod y flwyddyn nesaf.
‘Cwbl ganolog i’n cenhadaeth’
Noddir y cynllun gan Bro360 ac Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Aberystwyth.
“Mae datblygu’r cyfleoedd sydd ar gael i’r di-Gymraeg yn rhan greiddiol o’n gwaith gyda’r gwefannau bro yng Ngheredigion (ac ardal Arfon), ac ry’n ni’n falch iawn o estyn cefnogaeth a chreu rheswm a phlatfform i’r dysgwyr ddefnyddio’r Gymraeg sy’ ‘da nhw.” meddai Lowri Jones, Cydlynydd Prosiect Bro360.
Dros y misoedd nesaf a thu hwnt, bydd modd i bawb sy’n cymryd rhan yn y cynllun – y dysgwyr a’r pwyllgorau lleol – rannu eu straeon a’u profiadau ar BroAber360, Caron360 a Clonc360.
Ychwanegodd Pennaeth Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd, Prifysgol Aberystwyth, Dr Cathryn Charnell-White fod cynnig cyfleoedd i ddysgwyr y Gymraeg gyfoethogi eu profiad o’r iaith a’i diwylliant yn “bwysig dros ben” i’r adran ac yn “gwbl ganolog i’n cenhadaeth”.
Am ragor o fanylion sut i ymuno â’r cynllun ewch draw i Bro360