Mae cyfrol Dyfan Lewis, Amser Mynd, yn cynnwys cyfres o ysgrifau sydd yn mynd i’r afael â’r syniadau a myfyrdod a brofodd wrth deithio de ddwyrain Asia gyda’i gariad yn 2017.

Dyma ei drydydd cyhoeddiad, yn dilyn y pamffledi Golau, 2018 a Mawr a Cherddi Eraill, 2019.

Erbyn hyn mae Dyfan Lewis yn gyfarwydd â hunangyhoeddi, gan fod y tair cyfrol wedi eu cyhoeddi gan ei wasg ef ei hun – Gwasg Pelydr.

Dywedodd Dyfan Lewis wrth golwg360 fod yr ysgrifau wedi eu ffurfio o amgylch y dyddiaduron a ysgrifennodd yn ystod ei daith i dde ddwyrain Asia dair blynedd yn ôl.

“Mae’r ysgrifau wedi eu hadeiladu ar y syniadau a’r myfyrdodau oedd yn y dyddiaduron, ac yna cymerodd y gwaith ei fywyd ei hun,” esboniodd.

“Dim sôn am Covid.”

“Ymateb i’r profiad o deithio sydd yn yr ysgrifau,” meddai Dyfan Lewis.

Roedd y broses o ysgrifennu’r gyfrol wedi dod i ben cyn y cyfnod clo, a’r drafft cyntaf llawn wedi ei orffen erbyn Ionawr, cyn i’r coronafeirws effeithio ar ein harferion teithio.

Pwysleisiodd nad “oes sôn am Covid” yn y gyfrol, ond o ystyried y ffordd mae’r pandemig wedi atal pobol rhag teithio mae’r ysgrifau i’w gweld yn amserol.

Mae yma fyfyrdodau ar rôl pobol o’r gorllewin yn teithio i’r dwyrain, a dylanwad ac effaith y Saesneg ar economi a gwleidyddiaeth gwledydd de-ddwyrain Asia, yn ôl yr awdur.

Yn ogystal, ceir ystyriaeth o freintiau Dyfan Lewis, fel person gwyn, wrth deithio.

Meddai Dyfan Lewis: “Coda’r ysgrifau nifer o gwestiynau am ein harferion teithio ni, ac ynghylch y diwydiant twristiaeth a theithio yn gyffredinol.

“Mae’r cyfnod clo a’r coronafeirws wedi rhoi cyfle i ni ailystyried arferion ein cymdeithas yn 2020.”

Er ei fod yn cyfaddef fod peth ystrydeb yn ei eiriau, dywedodd Dyfan Lewis fod yr ysgrifau yn gofyn nifer o gwestiynau am arferion cymdeithas orllewinol, ac ein perthynas â theithio, er nad yw’n cynnig atebion.

Ynghyd â chodi cwestiynau, mae’r gyfrol yn cynnwys ysgrifau ysgafnach megis darnau yn trafod profiadau’r awdur yn bwyta gwahanol fwydydd, ac ambell dro trwstan.

Y penderfyniad i hunangyhoeddi yn “naturiol.”

“Dwi erioed wedi bod drwy’r broses o fynd drwy wasg arall,” meddai Dyfan Lewis.

“Penderfynais hunangyhoeddi gyda Gwasg Pelydr gan mai dyma’r peth naturiol i mi ei wneud, yn dilyn cyhoeddi dau bamffled yn y blynyddoedd diwethaf – Golau a Mawr a Cherddi Eraill.”

Mae’r broses o fynd drwy wasg arall yn “estron” iddo, ac mae’n gobeithio gallu ehangu Gwasg Pelydr drwy ofyn i bobol eraill gyfrannu.

Gobeithia Dyfan Lewis y gall y wasg gyhoeddi “deunydd gwahanol i’r hyn sydd yn cael ei gyhoeddi gan weisg eraill yng Nghymru.”

Er nad oedd y broses o hunangyhoeddi yn gwbl rwydd, ac roedd yn canlyn fod popeth fymryn yn anoddach yn sgil cyfyngiadau’r coronafeirws, dywedodd Dyfan Lewis “fod problemau yn codi o hyd wrth gyhoeddi.”

Cafodd y gyfrol ei hariannu gan Lenyddiaeth Cymru, fel rhan o’u cynllun Ysgoloriaethau a Mentora 2019, a Llŷr Gwyn Lewis oedd yn gyfrifol am ei fentora.

“Cynhaliwyd pob cyfarfod, heb law un, gyda Llŷr Gwyn Lewis cyn y cyfnod clo,” esboniodd.

Eglurodd fod y cyfyngiadau yn golygu fod rhaid iddo gael adborth gan ei deulu dros y we, gan yrru’r ysgrifau dros y we i’w fam.

Serch hynny, “dros y we fyddai’r broses olygu yn cael ei chwblhau beth bynnag,” felly ni amharodd y cyfyngiadau yn ormodol ar y broses gyhoeddi.

Mae’r gyfrol, Amser Mynd, ar gael i’w phrynu ar wefan gwasgpelydr.com a bydd copïau ar werth mewn siopau yn yr wythnosau nesaf.