Mae Alex Salmond wedi cynnig mynd i’r llys er mwyn cael gafael ar ddogfennau gan Lywodraeth yr Alban ar ei hymchwiliad i mewn i honiadau o aflonyddu rhywiol yn ei erbyn.
Mae tîm cyfreithiol y cyn Brif Weinidog wedi beirniadu Llywodraeth yr Alban am wrthod darparu dogfennau penodol i ymholiad Holyrood ac am roi “tystiolaeth rannol ac anghyflawn” i’r pwyllgor.
Dywedodd cyfreithiwr Alex Salmond, David McKie, y byddai’n rhaid i Bwyllgor Llywodraeth yr Alban ar Ymdriniaeth o Gwynion Aflonyddu dalu am gost camau cyfreithiol er mwyn ceisio rhyddhau’r dystiolaeth.
“Rydym yn nodi fod Llywodraeth yr Alban yn parhau i oedi a darparu tystiolaeth rannol ac anghyflawn,” meddai.
“Rydym yn gyfarwydd â’r patrwm hwn o’r adolygiad barwnol.”
Os yw’n gwrthod neu’n oedi ymhellach, dywedodd David McKie y byddai Mr Salmond yn dychwelyd i’r llys er mwyn cael caniatâd y llys i ddarparu’r dogfennau i’r pwyllgor.
“Rydym yn anhapus bod y mater hwn yn cymryd gymaint o amser ond nid ydym wedi ein synnu,” meddai.
Dywedodd Jackie Baillie, dirprwy arweinydd Llafur yr Alban ac aelod o’r pwyllgor: “Mae’r llythyr hwn yn datgelu graddfa methiant Llywodraeth yr Alban i fod yn dryloyw gyda’r pwyllgor a’r cyhoedd.”