Mae dynes o Geredigion wedi ei chael yn euog o achosi marwolaeth cynghorydd sir ger Aberystwyth trwy yrru’n ddiofal.

Bu farw Paul James, 61, a oedd yn gynghorydd Plaid Cymru yn ward Llanbadarn Fawr, mewn gwrthdrawiad gyda dau gar ar yr A487 fis Ebrill y llynedd.

Mae Lowri Powell, 44, o Benrhyncoch ei rhyddhau ar fechnïaeth nes bydd gwrandawiad dedfrydu ar 9 Hydref.

Cafwyd gyrrwr arall, Christopher Jones, 40, o Bont ar Fynach, yn ddieuog o achosi marwolaeth trwy yrru’n ddiofal ddydd Llun (Medi 7)

Fe gymerodd y rheithgor bum awr cyn i’r mwyafrif ddyfarnu fod Lowri Powell yn euog o’r un drosedd.

Roedd y ddau wedi dweud wrth yr heddlu nad oedden nhw wedi gweld Paul James oherwydd yr haul yn eu llygaid.

“Cefais fy nallu gan olau’r haul a oedd yn llachar iawn a thynnu fy fisor haul i lawr”, meddai Lowri Powell.

“Es i’n ddideimlad.

“Bydd gyda mi, mae’n debyg, am weddill fy oes.”

Cefndir

Clywodd Llys y Goron Abertawe fod Paul James, Lowri Powell, a Christopher Jones i gyd yn teithio tuag at Aberystwyth pan darodd car Lowri Powell y beiciwr wrth iddi ei basio.

Achosodd hyn i’r dyn 61 oed ddisgyn i’r ffordd cyn cael ei daro ychydig eiliadau’n ddiweddarach gan Christopher Jones.

Er gwaethaf ymdrechion y gwasanaethau brys bu farw Paul James yn y fan a’r lle.