Wrth i Sir Caerffili wynebu cyfnod o gyfyngiadau llym o heno ymlaen, mae’r Gweinidog Iechyd yn rhybuddio y bydd yn gwneud yr un peth mewn ardaloedd eraill os bydd angen.

Dywedodd Vaughan Gething hyn lai na diwrnod ar ôl iddo gyhoeddi y byddai rheolau’r coronafeirws yn cael eu tynhau ar draws bwrdeistref Caerffili yn dilyn cynnydd cyflym yn nifer yr achosion o’r coronafeirws.

Roedd 98 o achosion newydd yng Nghaerffili dros yr wythnos ddiwethaf.

Dyma’r  sydd â’r gyfradd uchaf o achosion yng Nghymru – 72.9 achos i bob 100,000 o’r boblogaeth – a’r ail gyfradd uchaf yng Ngwledydd Prydain.

Parhau i gynyddu hefyd mae nifer yr achosion ledled Cymru, gyda 150 o achosion newydd wedi eu cadarnhau yn y cyfnod 24-awr diwethaf. Mae’r cyfanswm achosion ledled Cymru bellach yn 18,664, er na chafwyd dim marwolaethau ychwanegol at y cyfanswm o 1,597 ers dechrau’r pandemig.

Ardaloedd eraill

Yn ystod cynhadledd wythnosol Llywodraeth Cymru heddiw (dydd Mawrth, Medi 8) eglurodd Vaughan Gething  fod y Llywodraeth yn cadw llygaid ar y nifer o achosion mewn ardaloedd eraill yng Nghymru.

Rhondda Cynon Taf yw’r ardal sydd â’r ail nifer uchaf o achosion yng Nghymru.

“Mae targedu cymunedol wedi ei gyflwyno yng Nghaerffili ac mae ar fin dechrau yn waelod Cwm Rhondda, lle mae yna hefyd gynnydd yn nifer yr achosion”, meddai Vaughan Gething.

“Fe allai mesurau tebyg ddod i rym mewn rhannu eraill o Gymru os rydym yn gweld yr un patrwm.

“Mae angen i ardaloedd eraill yng Nghymru edrych ar beth sy’n digwydd yng Nghaerffili, a deall mai ein hymddygiad ni sydd yn arwain at gyfyngiadau fel hyn, a bod angen i ni ddilyn y canllawiau i osgoi sefyllfaoedd fel hyn.”

Tafarndai

Er na fydd pobol yng Nghaerffili yn cael cyfarfod teulu a ffrindiau dan do fydd tafarndai yn y sir ddim yn cael eu gorfodi i gau.

“Mae’r data sydd gennym ar drosglwyddo yn dangos bod trosglwyddo yn digwydd ran amlaf mewn cartrefi neu o ganlyniad i bobol yn dychwelyd o fod dramor”, meddai Vaughan Gething.

“Ar hyn o bryd nid yw’n ymddangos bod trosglwyddo yn digwydd mewn tafarndai.

“Yng Nghaerffili dim ond gyda rhywun o’ch tŷ eich hun y dylech fod yn mynd i’r dafarn, os na ddilynir y rheolau hyn gallwn gymryd camau pellach.”

Gwisgo masgiau

Ar ôl i Lywodraeth Cymru wneud hi’n ofynnol i bobol yng Nghaerffili wisgo gorchudd wynebau mewn siopau mae’r gwrthbleidiau ac undebau wedi galw ar y Llywodraeth i wneud hi’n ofynnol i bobol wisgo gorchudd wynebau mewn siopau ar draws y wlad.

“Dylai’r cynnydd mewn achosion arwain Llywodraeth Cymru at ailfeddwl yr ymagwedd at orchuddion wyneb”, meddai Shavanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru.

Mewn ymateb i hyn dywedodd Vaughan Gething fod trosglwyddiad y feirws yn y gymuned yn uwch yng Nghaerffili i gymharu ag ardaloedd eraill yng Nghymru.

“Mae Caerffili mewn man gwahanol – rydym yn gweld trosglwyddiad uwch o fewn y gymuned yno i gymharu ag ardaloedd eraill yng Nghymru”, meddai.

“Dydw i ddim eisiau cyflwyno rhagor o gyfyngiadau, ond os fydd rhaid, ni fyddaf yn oedi gwneud hynny.”

Y mesurau fydd yn dod i rym yng Nghaerffili heno

Mae’r mesurau newydd yn effeithio ar bawb sy’n byw o fewn ardal Cyngor Sir Caerffili.

  • Ni fydd pobol yn cael mynd i mewn na gadael y sir heb reswm rhesymol – mae teithio am resymau meddygol, i’r gwaith neu i’r ysgol yn rhesymau rhesymol i deithio fewn ag allan o’r sir.
  • Bydd rhaid i bawb dros 11 oed wisgo mygydau mewn siopau.
  • Fydd pobol ddim yn cael cyfarfod teulu a ffrindiau dan do, nac aros dros nos.
  • Fydd aelwydydd estynedig ddim yn cael cyfarfod.

Mae’r Gweinidog Iechyd wedi dweud y bydd y clo mewn grym tan “o leiaf” mis Hydref.