Bydd cyfnod clo Caerffili yn parhau tan “o leiaf” mis Hydref yn ôl y Gweinidog Iechyd Vaughan Gething.
Daw amrywiaeth o fesurau newydd i rym heddiw (ddydd Mawrth) am 6yh ar ôl i 133 o achosion coronaferiws gael eu cofnodi dros yr wythnos ddiwethaf.
Dywedodd Vaughan Gething wrth BBC Radio Wales ei fod yn disgwyl i raddfa’r achosion godi yng Nghaerffili.
“Cyn lleied ag wythnos yn ôl, roedd gennym ni’r raddfa isaf o coronafeirws o unrhyw wlad yn y Deyrnas Unedig,” meddai.
“Rydym bellach mewn safle, wythnos yn ddiweddarach, lle rydym wedi gweld cynnydd sylweddol.
“Mae hynny yn dangos bod y coronafeirws, dros gyfnod cwpl o wythnosau, yn cael tyfu’n gyflym iawn.
“Byddwn yn cael mwy o bobol yn cael ei heintio a mwy o bobol yn gorfod mynd i ysbytai.”
Dywedodd mai un o’r “achosion sylweddol” pam fod y feirws yn lledaenu oedd diffyg pellhau cymdeithasol, gyda phobol yn cymdeithasu yn nhai ei gilydd mewn niferoedd mwy.
Er hyn, bydd tafarndai yn cael aros yn agored yn ardal Caerffili, gan nad oes trosglwyddiad sylweddol yn digwydd yno.
Bydd mesurau’r cloi, sy’n cael eu gorfodi gan yr awdurdod lleol a’r heddlu, yn cael eu hadolygu bob pythefnos.
Angen “gweithredu’n lleol” – Mark Drakeford.
Yn siarad ar BBC Radio Cymru fore Mawrth, dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford fod y sefyllfa’n amrywio dros Gymru, ond bod angen gweithredu’n lleol pan mae niferoedd yr achosion yn cynyddu.
“Nid ydym eisiau delio gyda’r broblem trwy wneud pethe fel oedd rhaid ei gwneud ym mis Mawrth dros Gymru i gyd, yn hytrach byddwn yn delio gyda’r broblem yn gyflym ac yn delio gyda’r broblem yn lleol a helpu’r bobl yn lleol i wneud y pethau iawn.
“Trwy hynny gallwn ni droi’r gornel a bydd Caerffili yn ôl yn lle’r oedd Caerffili’r wythnos diwethaf.”
Bydd mygydau’n orfodol yng Nghaerffili, ond dywedodd nad yw’n “rhesymol” ymestyn y rheol honno dros Gymru gyfan.
Ffigyrau diweddaraf
Mae 133 achos newydd o’r coronaferiws wedi cael ei gadarnhau yng Nghymru, gan ddod a chyfanswm yr achosion i 18,514.
Ni fu unrhyw farwolaethau pellach o bobl sydd wedi profi’n bositif am y coronafeirws yng Nghymru, gyda chyfanswm y marwolaethau ers dechrau’r pandemig yn aros ar 1,597.