Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi bydd £106m yn cael ei fuddsoddi yng nghefn gwlad Cymru newn ymateb i’r heriau sy’n deillio o Brexit a Covid-19.

Caiff y cynlluniau eu hariannu yn rhannol gan Raglen Datblygu Gwledig yr UE 2014-20 yn ogystal â Llywodraeth Cymru ei hun.

Yn ôl y Llywodraeth bydd y cannoedd o brosiectau yn rhoi hwb i’r economi wledig, gwella bioamrywiaeth a gwella gwytnwch y sector bwyd ledled Cymru am y tair blynedd nesaf.

Bydd y prosiectau hynny a gefnogir yn cynnwys:

  • Creu ac adfer coetiroedd
  • Meithrin gwytnwch ymysg adnoddau naturiol Cymru a gwella bioamrywiaeth,
  • Helpu busnesau bwyd i wella eu cadwyni cyflenwi, gwytnwch busnes
  • Cefnogi busnesau fferm i helpu i sicrhau eu cynaliadwyedd
  • Darparu Strategaeth Adfer Covid-19 ar gyfer y sector bwyd a diod.

“Mae effaith y stormydd dwys ar ein cymunedau gwledig yn gynharach eleni ac yna’r pandemig Covid-19 wedi bod yn aruthrol”, meddai Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cymorth ar unwaith drwy’r Gronfa Cadernid Economaidd, sy’n unigryw i Gymru, yn ogystal â chyfres o gynlluniau wedi’u targedu. Mae’r cyhoeddiad heddiw’n nodi rhywfaint o’r cyllid y byddwn yn ei ddarparu ar gyfer datblygu gwledig nid yn unig yn y dyfodol agos, ond am y tair blynedd nesaf.

“Er bod economi wledig Cymru yn wynebu sawl her mae gennym lawer o asedau a chyfleoedd y gallwn adeiladu arnynt – o’n treftadaeth naturiol ysblennydd i’r sectorau bwyd a diod ffyniannus.

“Bydd y buddsoddiad hwn gan Lywodraeth Cymru a’r Undeb Ewropeaidd yn adeiladu ar y cryfderau hynny i gefnogi swyddi ac arloesedd yn yr economi wledig mewn ffordd sy’n diogelu ein hamgylchedd naturiol ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”

‘Amser heriol’

Un o rheini fydd yn derbyn cyllid ychwanegol fydd yr asiantaeth Arloesi Bwyd Cymru.

Dywedodd yr Athro David Lloyd o Arloesi Bwyd Cymru ei fod yn croesawu’r cyhoeddiad.

“Rydym wedi parhau i drafod gydag amrywiaeth o fusnesau drwy gydol yr amser anodd hwn – a dw i’n siŵr y byddan nhw’n croesawu’r cymorth hirdymor y bydd y cynnydd yng nghyllid y Cynllun Datblygu Gwledig yn ei ddarparu.

“Bydd Prosiect HELIX yn parhau i roi cymorth hanfodol i fusnesau Cymru wrth iddyn nhw geisio datblygu cynnyrch newydd, gwastraffu llai ac ennill ardystiad sy’n cael ei gydnabod yn rhyngwladol.”

Dywedodd Huw Thomas, Rheolwr Gyfarwyddwr Puffin Foods: “Mae’r cyfnod diweddar wedi taro’r sector bwyd a chynnyrch yn arbennig o galed – bydd y cyhoeddiad hwn yn gymorth i ddarparu lefel o sicrwydd y mae mawr ei angen ar fusnesau ledled Cymru.”