Dywed Cwnsler Cyffredinol Cymru nad oes ganddo hyder yng ngweinidogion Llywodraeth Prydain i sefyll dros fuddiannau Cymru yn y trafodaethau masnach gyda’r Undeb Ewropeaidd.

Mewn Datganiad Ysgrifenedig, mae Jeremy Miles AS wedi cyhoeddi cyfres o 11 o lythyrau mae wedi eu hanfon at weinidogion llywodraeth Prydain yn nodi blaenoriaethau llywodraeth Cymru ar gyfer y trafodaethau hynny.

Nid yw wedi cael cymaint ag ateb i rai o’r llythyrau hyn, ac mae hynny o atebion ag mae wedi eu cael yn gwbl anfoddhaol yn ei olwg.

“Dyw’r ymatebion dw i wedi’u cael ddim yn rhoi sicrwydd imi fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ystyried buddiannau a blaenoriaethau Cymru yn ei dull gweithredu ar gyfer y trafodaethau,” meddai.

“Er y byddai Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu dull gweithredu gwahanol ar gyfer y trafodaethau, mae’r llythyrau yn ei gwneud yn glir ein bod yn parhau i ymrwymo i fod yn adeiladol.

“Byddwn yn parhau i fanteisio ar y cyfleoedd cyfyngedig hynny sydd ar gael i fynnu bod buddiannau Cymru yn cael eu cynnwys yn safbwynt Llywodraeth y Deyrnas Unedig.”

Dywed, fodd bynnag, ei fod yn bryderus iawn y bydd agwedd llywodraeth Prydain at yr Undeb Ewropeaidd yn cael effaith negyddol iawn ar Gymru.

“Mae’n peri pryder dwfn fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ôl pob golwg yn benderfynol o geisio am ddim mwy na chytundeb masnach cyfyngedig iawn â’r Undeb Ewropeaidd,” meddai.

“Mae hyn yn rhywbeth sy’n bygwth niweidio busnesau a swyddi yng Nghymru yn fawr – ac mae amheuaeth ynghylch cyflawni’r uchelgais gweddol fach honno hyd yn oed, yn sgil anhyblygrwydd cyffredinol Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn y trafodaethau.”