Mae’r Aelod o Senedd Ewrop, Mairead McGuinnes, wedi cael ei phenodi fel Comisiynydd Ewropeaidd newydd Iwerddon.

Bydd y gwleidydd Fine Gael yn cymryd drosodd cyfrifoldeb am wasanaethau ariannol yn ogystal â phortffolio sefydlogrwydd ariannol.

Cyhoeddodd Llywydd y Comisiwn Ewropeaidd Ursula von der Leyen y penodiad, yn dilyn ymddiswyddiad Phil Hogan ar ôl iddo fynd i ginio cymdeithas golff Oireachtas yn Swydd Galway.

Roedd Phil Hogan wedi bod yn gomisiynydd masnachu’r Undeb Ewropeaidd ac roedd disgwyl iddo chwarae rôl allweddol mewn trafodaethau cytundeb ôl-Brexit gyda’r Deyrnas Unedig.

Dywedodd Ursula von der Leyen ei bod hi’n ymddiried yn llwyr yn Mairead McGuinness.

“Mae gan Ms McGuiness brofiad gwleidyddol sylweddol ar faterion Undeb Ewropeaidd, gan ei bod hi wedi bod yn Aelod o’r Senedd Ewropeaidd ers 2004 ac yn gweithio fel Is-Lywydd y Senedd Ewropeaid ar hyn o bryd.

Mae Taoiseach Iwerddon, Micheal Martin, hefyd wedi llongyfarch Mairead McGuinness yn dilyn ei phenodiad.

“Mae’n ddiwrnod gwych iddi hi a’i theulu,” meddai.

“Does gennyf ddim amheuaeth y bydd hi’n chwarae rôl allweddol yng ngwaith y Comisiwn.”