Mae tanau gwyllt California yn llosgi dwy filiwn o erwau eleni, gyda Gwasanaeth Coedwigoedd yr Unol Daleithiau yn gorfod cau’r wyth goedwig genedlaethol yn hanner deheuol y dalaith.

Ar ôl haf sych, mae California yn grasboeth cyn yr Hydref sydd fel arfer yn gyfnod peryglus am danau gwyllt.

Mae dau o’r tri tân mwyaf yn hanes y dalaith yn llosgi yn ardal Bae San Francisco.

Mae mwy na 14,000 o ddynion tân yn brwydro yn erbyn y tanau a dwsin yn fwy o amgylch California.

“Mae’n rhaid cymryd y sefyllfa tanau gwyllt yn Califronia o ddifrif,” meddai coedwigwr rhanbarthol y Gwasanaeth Coedwigoedd.

Y record flaenorol o ran arwynebedd a gafodd ei golli i danau oedd 1.96 miliwn o erwau yn 2018.

Ers Awst 15, mae 900 o danau gwyllt wedi llosgi yn California, gyda nifer ohonynt wedi dechrau yn sgil miloedd o fellt yn taro yng nghanol mis Awst.

Mae wyth o bobol wedi marw yn y tanau, tra bod 3,300 o adeiladau wedi cael eu dinistrio.