Mae data diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) yn awgrymu bod nifer y marwolaethau o achos Covid-19 yn is nag mae wedi bod ers cychwyn y pandemig.

Cafodd cyfanswm o 101 o farwolaethau a oedd yn enwi Covid-19 ar y dystysgrif marwolaeth eu cofrestru yng Nghymru a Lloegr yn yr wythnos yn diweddu 28 Awst. Mae hyn yn cymharu â 138 yr wythnos cynt, a’r isaf ers yr wythnos yn diweddu 13 Mawrth, pryd y cafodd pum marwolaeth ei chofrestru.

Bellach mae cyfanswm o 57,417 o farwolaethau a oedd yn crybwyll Covid-19 ar y dystysgrif marwolaeth wedi cael eu cofrestru yn y Deyrnas Unedig.

Mae’r cyfanswm hwn yn cynnwys 52,317 yng Nghymru a Lloegr (dyw’r ffigurau hyn ddim ar gael ar wahân ar gyfer Cymru), 4,228 o farwolaethau yn yr Alban ac 873 yng Ngogledd Iwerddon.