Bydd rheolau’r coronafeirws yn cael eu tynhau ar draws bwrdeistref Caerffili er mwyn atal lledaeniad y feirws, meddai Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd.
Daw amrywiaeth o fesurau newydd i rym ddydd Mawrth am 6pm mewn ymgais i leihau nifer yr heintiau:
- Ni chaniateir i bobl fynd i mewn i ardal Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, na’i gadael, heb reswm rhesymol;
- Bydd yn ofynnol i bawb dros 11 oed wisgo gorchuddion wyneb mewn siopau;
- Dim ond yn yr awyr agored y bydd pobl yn gallu cyfarfod am y tro – ni chaniateir cyfarfodydd gyda phobl eraill dan do ac mewn aelwydydd estynedig. Ni chaniateir aros dros nos.
Bydd y cyfyngiadau newydd yn berthnasol i bawb sy’n byw yn ardal Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.
Cynnydd cyflym
Maent yn cael eu cyflwyno yn dilyn cynnydd cyflym yn nifer yr achosion o’r coronafeirws cynnydd sydd wedi’i gysylltu â chlystyrau o bobl sy’n cyfarfod dan do, heb ddilyn canllawiau ymbellhau cymdeithasol, ynghyd â phobl yn dychwelyd o wyliau tramor.
Bydd y rheolau’n cael eu hadolygu’n rheolaidd ond os na fydd achosion yn gostwng, bydd Llywodraeth Cymru, gan weithio gyda Chyngor Caerffili ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn ystyried mesurau pellach.
Dywedodd Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd:
“Rydym wedi gweld cynnydd sylweddol mewn achosion ym mwrdeistref Caerffili dros gyfnod byr iawn, sy’n gysylltiedig â theithio dramor ar wyliau a phobl sy’n cymdeithasu dan do heb ddilyn canllawiau ymbellhau cymdeithasol.
“Mae llawer o’r achosion hyn mewn pobl iau a diolch byth, ar hyn o bryd, mae’r rhan fwyaf o’r rhain yn [symptomau] ysgafn. Ond mae’r coronafeirws bellach yn cylchredeg yn y gymuned a dim ond mater o amser ydyw cyn i ni ddechrau gweld achosion mwy difrifol, y mae angen triniaeth ysbyty ar eu cyfer.
“Mae angen help pawb ym mwrdeistref Caerffili arnom i atal y feirws rhag lledaenu’n gynyddol. Dim ond os bydd pawb yn dod at ei gilydd ac yn dilyn y camau newydd hyn y gallwn reoli’r achosion lleol hyn.
“Os na welwn [nifer yr] achosion yn gostwng, efallai y bydd angen i ni gymryd camau pellach i reoli’r achosion lleol hyn.”
Yn ystod y saith diwrnod diwethaf cadarnhawyd 133 o achosion newydd, sy’n cyfateb i gyfradd o 55.4 achos fesul 100,000 o’r boblogaeth – y gyfradd uchaf yng Nghymru ac un o’r uchaf yn y Deyrnas Unedig. Disgwylir y bydd nifer yr achosion yn parhau i godi.
Cyfradd bositif o 4%
Cyflwynwyd profion cymunedol yng Nghaerffili dros y penwythnos. Ddydd Sadwrn, profwyd tua 450 o bobl ac roedd 19 yn bositif – cyfradd bositif o 4% – sy’n dangos bod y feirws yn cylchredeg yn y gymuned. Profwyd nifer tebyg o bobl ddydd Sul a disgwylir y canlyniadau cyn bo hir.
Daw’r holl gyfyngiadau newydd i rym am 6pm ddydd Mawrth.
Bydd y cyfyngiadau teithio yn golygu na all pobl fynd i mewn i ardal Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, na’i gadael, heb esgus rhesymol – mae hyn [esgus rhesymol] yn cynnwys gwaith, os na allant weithio gartref, neu ymweld â pherthynas, neu roi gofal.
Dim ond yn yr awyr agored y bydd pobl yn gallu cyfarfod am y tro – ni chaniateir cyfarfodydd gyda phobl eraill dan do ac mewn aelwydydd estynedig. Ni chaniateir aros dros nos. Fodd bynnag, bydd ymweliadau gofal yn gallu mynd rhagddynt.
Mae Cyngor Caerffili eisoes wedi cyflwyno rhai mesurau mewn ymateb i’r cynnydd mewn achosion – mae wedi atal ymweliadau â chartrefi gofal yn y fwrdeistref ac mae’n cyflwyno profion wythnosol ar gyfer staff cartrefi gofal.
“Gyda’n gilydd, gallwn reoli’r achosion hyn”
Dywedodd y Cynghorydd Philippa Marsden, arweinydd Cyngor Caerffili:
“Mae angen i ni dorri cylchrediad yr haint rydym yn ei weld ym mwrdeistref Caerffili ar hyn o bryd ac yn anffodus mae hynny’n golygu cyflwyno cyfyngiadau newydd, llymach.
“Byddwn yn annog pawb sy’n byw yn yr ardal i ddilyn y mesurau newydd hyn; i ddilyn y canllawiau ymbellhau cymdeithasol ac i olchi eu dwylo’n rheolaidd. Os byddwn i gyd yn gweithio gyda’n gilydd, gallwn reoli’r achosion hyn a lleihau achosion o’r feirws.”
Caiff y mesurau newydd eu hadolygu’n rheolaidd a chaiff y cyfyngiadau newydd eu gorfodi gan yr awdurdod lleol a’r heddlu.
Ymateb y Ceidwadwyr
Dywedodd Andrew RT Davies, Gweinidog Iechyd Cysgodol y Ceidwadwyr yn Senedd Cymru:
“Rwy’n siomedig bod angen cloi i lawr yn lleol yng Nghaerffili.
Fodd bynnag, mae’n gwbl hanfodol bod y feirws yn cael ei reoli, yn enwedig gyda mwy o bobl yn dychwelyd i’r gwaith a phlant ysgol a myfyrwyr yn dychwelyd i astudio, a gan fod [nifer yr achosion] yn codi.
“Yn hollbwysig, rhaid i unrhyw glo lleol o’r fath fod am gyfnod mor fyr â phosib.
“Bydd rhannau eraill o Gymru yn gwylio sut mae Caerffili yn delio â’r achosion lleol hyn, a gobeithio y bydd unrhyw wersi a ddysgir yn cael eu rhannu’n eang er mwyn osgoi sefyllfa debyg mewn rhannau eraill o Gymru.”
Ymateb Plaid Cymru
Wrth ymateb i’r clo lleol, dywedodd Delyth Jewell, Plaid Cymru, Aelod y Senedd dros Ddwyrain De Cymru:
“Yn ystod y misoedd cloi gwelsom ein cymunedau yng Nghaerffili ar eu gorau glas. Gwelsom bobl yn cefnogi ein gilydd ac yn gofalu am eu cymdogion. Mae angen inni ddangos yr un ysbryd cymunedol yn awr wrth inni wynebu’r clo lleol hwn a dod at ei gilydd i gadw ein cymunedau’n ddiogel.
“Y ffordd orau sydd gennym yn awr o edrych allan am ein ffrindiau a’n cymdogion mwyaf agored i niwed yw drwy ddilyn canllawiau’r llywodraeth a chynnal ymbellhau cymdeithasol. Dylai unrhyw un sy’n profi symptomau ofyn am brawf ar unwaith a hunanynysu am bedwar diwrnod ar ddeg.
“Wrth i achosion gynyddu ledled Cymru mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru bellach wneud gorchuddion wyneb yn orfodol mewn siopau ledled y wlad. Rhaid gwneud pob ymdrech i ddiogelu ein cymunedau ac atal ail don – ac ail gyfnod cloi.”