Mae’r Gweinidog Iechyd Vaughan Gething wedi cyhoeddi cymorth iechyd meddwl ychwanegol.

Mae’r £1.3m gan Lywodraeth Cymru yn cynnwys cyllid ar gyfer cwrs therapi ar-lein a dros y ffôn.

Mae arolygon gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ac Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos bod lefelau gorbryder wedi cynyddu ar ddechrau pandemig y coronafeirws.

Er mwyn ehangu’r gwasanaethau sydd eisoes ar gael, mae’r Llywodraeth yn darparu cwrs Therapi Gwybyddol Ymddygiadol ar-lein newydd, a fydd ar gael i unrhyw un 16 mlwydd oed neu hŷn.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi iechyd meddwl y cyhoedd, ac rydym wedi sicrhau bod y pecyn hwn o fesurau ychwanegol wedi’i sefydlu cyn unrhyw ail don bosibl dros y gaeaf ac wrth i effaith y pandemig gael ei theimlo’n ehangach”, meddai Vaughan Gething.

“Nod y gwasanaethau hyn yw darparu cymorth ar gyfer materion iechyd meddwl lefel isel; ni fyddant yn cymryd lle gwasanaethau mwy arbenigol ond, drwy gynnig mynediad uniongyrchol at gymorth, ein gobaith yw y byddant yn helpu i leihau pwysau ar ofal sylfaenol a gwasanaethau mwy arbenigol eraill.”