Mae ffermwr o Drawsfynydd wedi dweud byddai’n ymprydio ar risiau’r Senedd pe bai Llywodraeth Cymru yn diystyru ei ddeiseb sydd yn galw am greu corff i ddysgu hanes Cymru.
“Dw i’n barod i ymprydio i’r eithaf ar risiau’r Senedd ei hun”, meddai Elfed Wyn Jones wrth golwg360.
“Mi fyddai’n fwy na pharod i brotestio os na fydd Kirsty Williams a’r llywodraeth yn cymryd hyn o ddifri.
“Dwi’n fodlon cerdded o Drawsfynydd i Gaerdydd ac ymprydio tan eu bod nhw’n cydnabod yr angen i sicrhau fod disgyblion yng Nghymru yn derbyn yr wybodaeth a’r addysg briodol am eu hanes.
“Dwi eisiau gwneud yn siŵr fod y mater pwysig yma yn cael ei drafod yn iawn.”
Ar ôl casglu dros 5,000 llofnod yn gynharach eleni, bydd y ddeiseb yn cael ei thrafod gan aelodau’r Senedd wythnos nesaf (Medi 15).
‘System loteri’
“Mae peryg bydd y cwricwlwm newydd yn creu system loteri, lle bydd rhai plant yn ddigon ffodus i ddysgu am Hanes Cymru a rhai eraill ddim”, meddai Elfed Wyn Jones.
“Os nad oes arweiniad, na chynnwys, na gwerslyfrau cadarn mae peryg bydd rhai disgyblion yn methu allan ar ddysgu am hanes eu gwlad.
Nid dyma’r tro cyntaf i Elfed Wyn Jones fygwth ymprydio – yn 2018 ymprydiodd am y saith diwrnod er mwyn pwyso ar Lywodraeth San Steffan i ddatganoli pwerau darlledu i Gymru.
Er hyn eglurodd nad yw ymprydio unwaith eto yn ddewis hawdd iddo.
“Wrth ymprydio dwi’n aberthu cymaint mwy na bwyd – fy ngwaith ar y fferm, fy iechyd ac mae’n rhoi pwysau mawr ar fy nheulu a ffrindiau.
“Mae’n dangos pa mor bwysig ydy hyn i mi – dwi’n credu’n gryf iawn am hyn – does dim terfyn am ba mor hir fydda i’n fodlon ymprydio tro ’ma.”
“Does dim y fath beth a hanes Cymreig”
Mae Cwricwlwm Cymru yn nodi y dylai gwersi hanes yng Nghymru gyflwyno dysgwyr o bob oed i ystod o gyfnodau hanesyddol ar raddfa leol, genedlaethol a byd-eang
Mae’r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams wedi amddiffyn y cwricwlwm newydd ar sawl achlysur ac wedi gwrthod dadleuon na fydd plant yn dysgu digon am hanes eu cenedl.
“Does dim y fath beth a ‘hanes Cymreig’, mae yna hanesion Cymreig” meddai wrth golwg360 fis Ionawr eleni
Mae hefyd wedi dadlau na ddylai’r “dimensiwn Cymreig” gael ei gyfyngu i wersi hanes, ac mae’n gobeithio bydd y cwricwlwm newydd yn galluogi i ddisgyblion ddysgu am Gymru ym mhob pwnc.
Y llynedd gwrthodwyd argymhelliad Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu y dylai Cwricwlwm i Gymru 2022 gynnwys canllaw sy’n nodi corff cyffredin o wybodaeth ar gyfer yr holl ddisgyblion sy’n astudio hanes.
Mewn ymateb i’w argymhelliad dywedodd y Llywodraeth Cymru bryd hynny fod “y Cwricwlwm i Gymru yn gwricwlwm pwrpasol sy’n torri cwys newydd drwy ymwrthod â rhestrau o bynciau sydd i’w haddysgu.”