O 4am ddydd Mercher (9 Medi) bydd angen i bobl sy’n cyrraedd Lloegr o saith o ynysoedd Gwlad Groeg hunanynysu am 14 diwrnod – ond bydd tir mawr Gwlad Groeg yn parhau i gael ei eithrio.
Trwy hyn, bydd Lloegr yn dechrau defnyddio dull rhanbarthol o ymdrin â chwarantin ar gyfer pobl sy’n cyrraedd o dramor, meddai Grant Shapps, Ysgrifennydd Trafnidiaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig.
Mae’r penderfyniad yn golygu bod Lloegr yn diyn Cymru, a dynnodd chwech o ynysoedd Groegaidd oddi ar ei rhestr dim cwarantîn yn ddiweddar. Fodd bynnag, nid yw’r ddwy lywodraeth wedi dileu statws dim cwarantin yr un ynysoedd yn union.
Dywedodd Adran Drafnidiaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig fod ynysoedd Groeg Lesvos, Tinos, Serifos, Mykonos, Crete, Santorini a Zakynthos (a elwir hefyd yn Zante) wedi’u tynnu oddi ar eu rhestr dim cwarantîn, gan fod data o’r Gyd-ganolfan Bioddiogelwch ac Iechyd Cyhoeddus Lloegr “wedi dangos risg sylweddol i iechyd cyhoeddus y DU o’r ynysoedd hynny”.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi dileu statws dim cwarantîn Paros ac Antiparos, ond nid Tinos, Serifos na Santorini.
Dywedodd Mr Shapps: “Ein prif flaenoriaeth erioed fu cadw cyfraddau heintiau domestig i lawr, a heddiw rydym yn cymryd y cam nesaf yn ein dull gweithredu.
“Drwy ddefnyddio data gwell byddwn yn awr yn gallu nodi risg yn rhai o’r ynysoedd mwyaf poblogaidd, gan roi mwy o hyblygrwydd i’w hychwanegu neu eu dileu – a hynny ar wahân i’r tir mawr – wrth i gyfraddau heintio newid.
“Bydd y datblygiad hwn yn helpu i hybu diwydiant teithio’r Deyrnas Unedig tra’n parhau i ddiogelu iechyd y cyhoedd i’r eithaf, gan hefyd gadw’r cyhoedd sy’n teithio’n ddiogel.”
Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cael ei beirniadu’n hallt am ei hymdriniaeth o gyfyngiadau teithio.