Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi cadarnhau eu bod yn cefnogi dwy ysgol yn y fwrdeistref sirol yn dilyn canlyniadau positif i brofion Covid-19.
Mae saith disgybl a thri aelod o staff yn Ysgol Gynradd Cwmnedd yn gorfod hunanynysu am bythefnos ar ôl i fyfyriwr brofi’n bositif am y coronafeirws.
Hefyd, mae aelod o staff yn Ysgol Gynradd Coed-ffranc, a aeth i’r ysgol yn ystod diwrnod hyfforddiant mewn swydd ddydd Iau diwethaf pan nad oedd unrhyw ddisgyblion yn bresennol, hefyd wedi profi’n gadarnhaol.
Mae tri aelod arall o staff Ysgol Cwmnedd bellach yn hunanynysu.
Dywedodd y cyngor fod y ddwy ysgol yn parhau ar agor ac nad oedd angen i unrhyw blentyn arall hunanynysu, aros i ffwrdd o’r ysgol, na chael ei brofi, oni bai ei fod yn datblygu symptomau Covid-19.