Mewn cynhadledd i’r wasg fore heddiw dywedodd Gweinidog Addysg Cymru nad oes y fath beth ag un hanes i Gymru, dim ond “hanesion Cymreig”.

Roedd Kirsty Williams yn amddiffyn ei chwricwlwm addysg newydd – mae fersiwn drafft eisoes wedi ei gyhoe ddi, a hyd yma mae cynlluniau’r Llywodraeth ym maes hanes wedi cael eu beirniadu’n hallt.

Dan gynlluniau presennol, bydd disgyblion yn cael eu hannog i ddysgu am eu hardal eu hunain – neu eu ‘cynefin’ – a phryder sawl un yw na fydd plant yn dysgu digon am hanes eu cenedl. 

Ond mae’r gweinidog wedi gwrthod y ddadl honno ac wedi herio’r syniad bod gan Gymru un hanes unedig. Dim ond gwahanol hanesion Cymreig sydd yna, meddai.

“Hanesion Cymreig”

“Does dim y fath beth a hanes Cymreig,” meddai wrth golwg360. “Mae yna hanesion Cymreig mae’n rhaid i ni siarad amdanyn nhw. 

“[Mae gennym y] pwynt [yma] o ddechrau, ar yr oedran ifancaf, gyda’r egwyddor ‘cynefin’ a deall eu hardal eu hunain – ac adeiladu ar hynny. 

“Mae hynny wedi cael ei groesawu gan haneswyr, Cymdeithas Ddysgedig Cymru – sydd wedi bod yn ein helpu i ddyfeisio’r cwricwlwm. 

“Ac mae’n rhoi pwynt dechrau da iawn i ddeall y byd ehangach gan ddechrau o’r ardal rydych yn ei nabod orau.” 

Bydd fersiwn diweddaraf y cwricwlwm yn cael ei gyhoeddi wythnos i heddiw. 

Dysgu am Gymru ym mhob pwnc

Dadl arall sydd gan Kirsty Williams yw na ddylai’r “dimensiwn Cymreig” gael ei gyfyngu i wersi hanes, ac mae’n gobeithio bydd disgyblion yn cael dysgu am Gymru ym mhob pwnc. 

“Byddwn hefyd yn gweld, yr wythnos nesaf, bod disgwyliad bod pob un o’r AOLEs yn darparu dimensiwn Cymreig,” meddai wrth y gynhadledd. 

“[A hynny] nid jest yn hanes, ond hefyd yn naearyddiaeth, llenyddiaeth, cyfraniad Cymru i wyddoniaeth a thechnoleg, cyfraniad Cymru i’r celfyddydau.

“Felly dw i’n credu y byddai’n siom fawr petawn ni jest yn cyfyngu ein dysgu ein plant am eu gwlad pe tawn yn gadael hynny i wers hanes.”

Dan y cwricwlwm newydd mae disgwyl i bynciau gael eu dosbarthu’n Feysydd Dysgu a Phrofiad (AOLEs). Bydd y cwricwlwm yn dechrau cael ei gyflwyno yn 2022.