Fe fydd ymgyrchydd iaith sydd wedi mynd heb fwyd ers wythnos, yn dod â’i ympryd i ben o flaen y Senedd ym Mae Caerdydd heddiw (Chwefror 27).
Mae Elfed Wyn Jones, ffermwr o Drawsfynydd, wedi bod yn ymprydio am y saith diwrnod diwethaf er mwyn pwyso ar Lywodraeth San Steffan i ddatganoli pwerau darlledu i Gymru.
Fe fydd yn ymddangos o flaen y Senedd heddiw ddiwrnod cyn dadl ar y mater, ac mae’r ymgyrchydd hefyd yn gobeitho cyflwyno llythyr o apêl i’r Gweinidog Darlledu Llywodraeth Cymru, Dafydd Elis-Thomas.
“Mater tyngedfennol”
“Dw i wir yn teimlo bod y mater yma’n dyngedfennol i’n democratiaeth ni yng Nghymru,” meddai.
“Os nad ydi pobol yn cael y ffeithiau cywir am y bobol sy’n gwneud penderfyniadau yn ein henw ni, os nad ydyn ni’n dallt sut maen nhw’n cael eu llywodraethu, mae democratiaeth Cymru dan fygythiad difrifol.
“Ar hyn o bryd mae llai na hanner y boblogaeth yn sylweddoli mai’r Senedd yng Nghaerdydd sy’n rheoli iechyd, er gwaethaf ugain mlynedd o ddatganoli.
“Er mwyn sicrhau atebolrwydd a chraffu digonol ar ein gwleidyddion, mae’n rhaid i benderfyniadau am ddarlledu yng Nghymru gael eu gwneud yng Nghymru.”