Mae daeargryn yn mesur 6.9 wedi taro rhannau o dde Lloegr tua 8:45 y bore ‘ma.

Dywedodd Heddlu Swydd Bedford bod nifer fawr o bobol o ardal Aylsbury wedi cysylltu â nhw yn dilyn y digwyddiad, ond nad oedd neb wedi anafu.

Yn ôl Arolwg Daearegol Prydain (BGS) roedd y daeargryn a barodd ychydig eiliadau a dyfnder o 10km.

Yn ôl un tyst roedd y drysau a dodrefn ei chartref yn ysgwyd, a disgrifiodd un arall y digwyddiad fel “ffrwydrad cyflym”.