Mae Boris Johnson yn wynebu gwrthwynebiad cynyddol o’i feinciau ei hun yn sgil ei gynlluniau dadleuol i ddiystyru elfennau allweddol o’i gytundeb Brexit â Brwsel, cynlluniau sy’n torri cyfraith ryngwladol, a hynny’n fwriadol.
Ymatebodd ASau yn ddig ar ôl i Ysgrifennydd Gogledd Iwerddon, Brandon Lewis, ddweud ddydd Mawrth y byddai deddfwriaeth i newid y Cytundeb Tynnu’n Ôl yn mynd yn groes i gyfraith ryngwladol mewn “ffordd benodol a chyfyngedig iawn”.
Mae Gweinidogion wedi dadlau bod angen y mesurau i sicrhau nad yw tariffau “niweidiol” yn cael eu gosod ar nwyddau sy’n teithio o weddill y DU i Ogledd Iwerddon os bydd trafodaethau gyda’r UE ar gytundeb masnach rydd yn methu.
‘Tanseilio enw da Prydain’
Fodd bynnag, mae sawl Ceidwadwr bellach wedi mynegi siom, gan rybuddio bod hyn yn tanseilio statws ac enw da Prydain fel gwladwriaeth sy’n parchu cyfraith ryngwladol.
Dywedodd Tobias Ellwood, cadeirydd Pwyllgor Amddiffyn Tŷ’r Cyffredin, pe bai’r Llywodraeth yn mynd drwodd gyda’r newidiadau i’r cytundeb – a sicrhaodd ymadawiad y DU o’r UE ym mis Ionawr – y byddai’n colli’r “tir uchel moesol”.
“Mae hyn yn ymwneud â rheolaeth y gyfraith a’n penderfyniad a’n hymrwymiad i’w chynnal,” meddai wrth raglen Today, BBC Radio 4.
“Byddai anwybyddu rhwymedigaethau unrhyw gytundeb […] yr ydym wedi’i lofnodi a’i gyflwyno i’r Cenhedloedd Unedig yn mynd yn groes i bopeth rydym yn credu ynddo.”
“Sut gallwn ni edrych gwledydd fel Tsieina yn y llygad a chwyno amdanynt yn torri rhwymedigaethau rhyngwladol dros Hong Kong, neu, yn wir, Rwsia a thaflegrynnau balistig, neu, yn wir, Iran dros y fargen niwclear os awn i lawr y trywydd hwn?”
Awgrymodd fod elfen o “sabre-rattling” wrth i drafodaethau ar gytundeb masnach rydd gyrraedd y camau terfynol gyda’r ddwy ochr, i bob golwg, yn hollol sownd.
Prydain yw “prif allforiwr” rheolaeth y gyfraith
Roedd ei sylwadau’n adleisio Tom Tugendhat, cadeirydd Pwyllgor Materion Tramor Tŷ’r Cyffredin, a ddywedodd mai Prydain, yn draddodiadol, oedd “prif allforiwr” rheolaeth y gyfraith ledled y byd.
“Rydym wedi bod yn biler o ddibynadwyedd mewn trafodaethau rhyngwladol… sydd wedi caniatáu i eraill ffynnu ac, yn wir, wedi caniatáu i ni ffynnu,” meddai wrth ddigwyddiad melin drafod Grŵp Polisi Tramor Prydain ddydd Mawrth.
“Nid yw’n ymwneud â’r gyfraith yn unig. Mae ein heconomi gyfan yn seiliedig ar y canfyddiad sydd gan bobl o ymlyniad y DU at reolaeth y gyfraith.”
Daw’r rhybuddion hyn – yn dilyn pryderon tebyg a fynegwyd gan y cyn-Brif Weinidog, Theresa May, ddoe – wrth i weinidogion baratoi i gyflwyno Bil y Farchnad Fewnol, sy’n cynnwys y newidiadau dadleuol, i Dŷ’r Cyffredin ddydd Mercher.
Dywedodd Brandon Lewis y byddai’r Bil yn “datgymhwyso” cysyniad cyfreithiol yr UE o “effaith uniongyrchol” yn y Cytundeb Tynnu’n Ôl – a fyddai’n ei gwneud yn ofynnol i’r DU barhau i gynnal cyfraith yr UE mewn perthynas â threfniadau tollau Gogledd Iwerddon.
Beirniadaeth gan gyn-Brif Weinidog
Mae’r cyn-Brif Weinidog, John Major, yn un sydd wedi ychwanegu ei lais at y feirniadaeth:
“Ers cenedlaethau, mae gair Prydain – a roddwyd yn ddifrifol – wedi’i dderbyn gan ffrindiau a gelynion. Mae ein llofnod ar unrhyw gytundeb wedi bod yn gysegredig,” meddai.
“Dros y ganrif ddiwethaf, wrth i’n cryfder milwrol leihau, mae ein gair wedi cadw ei rym. Os collwn ein henw da am anrhydeddu’r addewidion a wnawn, byddwn wedi colli rhywbeth y tu hwnt i bris na fyddwn fyth yn ei adennill.”
Tactegau Trump
Awgrymodd yr Arglwydd Darroch, y cyn-lysgennad Prydain i’r Unol Daleithiau a gafodd ei orfodi i ymddiswyddo ar ôl i’w geblau diplomataidd yn beirniadu Donald Trump gael eu datgelu i’r wasg, fod y Prif Weinidog yn mabwysiadu tactegau Arlywydd yr Unol Daleithiau.
Dywedodd fod Mr Johnson, pan oedd yn Ysgrifennydd Tramor, wedi awgrymu’n breifat, pe bai Mr Trump yn trafod cytundeb Brexit, y byddai’n creu “pob math o anhrefn” ar y dechrau er mwyn sicrhau “canlyniad da iawn” ar y diwedd.
“Nawr, wrth i mi ei wylio ef a’r Llywodraeth yn delio â’r trefniadau ar gyfer y berthynas yn y dyfodol ar ôl gadael, tybed a oes elfen o’r ffordd y byddai Donald Trump wedi gwneud pethau yn hyn?” meddai wrth Newsnight ar BBC2.
Ufuddhau i’r gyfraith
Er gwaethaf cyfaddefiad ei weinidog am ddeddfwriaeth newydd ei lywodraeth, mae Boris Johnson wedi mynnu bod yn rhaid i bawb ufuddhau i’r gyfraith.
Wrth siarad yng Nghwestiynau’r Prif Weinidog yn Senedd San Steffan heddiw (9 Medi), dywedodd aelod y Democratiaid Rhyddfrydol, Munira Wilson (Twickenham): “Os yw gweinidogion yn credu ei bod yn dderbyniol i’r Llywodraeth hon beidio ag ufuddhau i’r gyfraith, sut ar y ddaear y gall y Prif Weinidog ddisgwyl i’r cyhoedd gartref wneud hynny?”
Atebodd Mr Johnson: “Rydym yn disgwyl i bawb yn y wlad hon ufuddhau i’r gyfraith.”