Annibyniaeth yw’r “unig ffordd” i sicrhau bod democratiaeth Cymru yn cael ei gwarchod, meddai Adam Price, Arweinydd Plaid Cymru.
Daw ei sylwadau yn sgil cyflwyno Bil y Farchnad Fewnol heddiw, sy’n rhoi pwerau gwariant a chymorth gwladwriathol sy’n dychwelyd o Ewrop yn nwylo Llywodraeth y Deyrnas Unedig, yn erbyn ewyllys y llywodraethau datganoledig.
“Nid gafael yn y pŵer yn unig y mae Bil y Farchnad Fewnol… ond dinistrio dau ddegawd o ddatganoli”, meddai arweinydd Plaid Cymru.
“Mae hyn yn anwybyddu canlyniad dau refferendwm a bydd ewyllys pobl Cymru yn cael ei wyrdroi os caiff y gyfraith hon ei phasio.
“Annibyniaeth yw’r unig ffordd y gallwn amddiffyn democratiaeth Cymru.
“Heb lywodraeth o blaid annibyniaeth yng Nghaerdydd, bydd San Steffan yn parhau i fwlio Cymru.”
‘Geiriau cynnes am ddatganoli’
Ond dydy “geiriau cynnes am ddatganoli” gan Lywodraeth Cymru ddim yn ddigon, yn ôl Adam Price.
“Nid yw Llafur wedi gwneud dim i amddiffyn ein Senedd”, meddai.
“Mae angen mwy na geiriau arnom. Mae arnom angen llywodraeth o blaid annibyniaeth yng Nghymru a fydd yn gwrthsefyll ymosodiadau San Steffan ar ein democratiaeth.”
Bil y Farchnad Fewnol
Nod Bil y Farchnad Fewnol yw disodli rheoliadau’r Undeb Ewropeaidd sydd ar hyn o bryd yn rheoli masnach a buddsoddi ym Mhrydain.
Byddai’r Bil yn caniatáu i Lywodraeth y DU orfodi prosiectau mewn meysydd datganoledig fel datblygu economaidd, seilwaith, diwylliant, chwaraeon ac addysg heb gydsyniad Llywodraeth Cymru.