Mae Llywodraeth yr Alban yn ystyried cymryd camau cyfreithiol er mwyn ceisio rhwystro Llywodraeth y Deyrnas Unedig rhag deddfu mewn ardaloedd datganoledig, meddai Ysgrifennydd Cyfansoddiadol yr Alban, Mike Russell.

Dywedodd ei fod yn “ochelgar am fynd i’r llys” ond bod yna “ystod o opsiynau cyfreithiol posibl.”

Daw hyn yn sgil gwrthdaro rhwng Llywodraethau Cymru a’r Alban â San Steffan dros Fil y Farchnad Fewnol.

Mae Confensiwrn Sewel, sy’n sail i’r berthynas rhwng Llywodraeth y Deyrnas Unedig a’r llywodraethau datganoledig, yn nodi bod San Steffan “ddim fel arfer” yn pasio deddfwriaeth mewn ardaloedd datganoledig heb eu caniatâd.

Ond mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi gwthio deddfau drwyddo er gwaethaf hyn yn y gorffennol, megis Bil Cytundeb Gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Bil y Farchnad Fewnol yn “ymosodiad ar Senedd yr Alban” medd Ian Blackford

Mae arweinydd yr SNP yn San Steffan Ian Blackford wedi dweud bod Bil y Farchnad Fewnol yn “ddim llai nag ymosodiad ar Senedd yr Alban ac yn amharchu pobol yr Alban.”

Mewn sesiwn Cwestiynau’r Prif Weinidog heddiw (dydd Mercher, Medi 9) dywedodd Ian Blackford: “Mae’r ddeddfwriaeth hwn yn torri cyfraith ryngwladol, ond mae hefyd yn torri cyfraith ddomestig.

“Mae’r Prif Weinidog a’r ffrindiau yn creu gwladwriaeth dwyllodrus, un lle nad yw’r gyfraith yn berthnasol.

“Ydi’r Prif Weinidog yn meddwl ei fod ef a’i ffrindiau uwchlaw’r gyfraith?”

Atebodd Boris Johnson: “Bwriad Bil y Farchnad Fewnol ydi gwarchod swyddi, gwarchod twf, sicrhau llifedd a diogelwch marchnad fewnol y Deyrnas Unedig a ffyniant ar draws y Deyrnas Unedig a dylai gael ei groesawu, dw i’n credu, yn yr Alban, yng Ngogledd Iwerddon yng Nghymru a ledled y Deyrnas Unedig.”

Ond “rwtsh llwyr” yw hynny yn ôl Ian Blackford.

“Mae ei bapur gwyn ei hun yn glir bod cymorth gwladwriaethol yn mynd i gael ei gipio’n ôl o’r Alban a’i drosglwyddo i San Steffan… mae’r Alban yn siarad allan ac rwyf yn nodi y bydd Senedd yr Alban yn gwrthwynebu’r ymosodiad hwn ar ddatganoli,” meddai.

“Mae’r amser bron iawn yma i sefydlu’r Alban fel gwlad annibynnol, ryngwladol, sy’n ufudd i’r gyfraith, mae ein hamser wedi dod.”

Ond dywedodd Boris Johnson ei fod yn teimlo bod “yr ymosodiadau arno [Bil y Farchnad Fewnol] yn hollol afresymol” a’i fod mewn gwirionedd yn “cynrychioli trosglwyddiad sylweddol o bwerau a sofraniaeth i’r Alban a Chymru”.

“Mae’n weithred datganoli enfawr,” meddai.

“Mae’r Bil yn sarhau datganoli” – Liz Saville Roberts

Liz Saville Roberts AS

Mae arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan Liz Saville Roberts wedi dweud ei bod hi’n anghywir i honni bod y Bil yn cryfhau datganoli pan y bydd “rhwygo pwerau oddi wrth Gymru a chaniatáu Llywodraeth y Deyrnas Unedig i ddiystyru ein Senedd yn llwyr mewn ardaloedd datganoledig.”

“Mae’r Bil yn sarhau’r ddau refferendwm ar ddatganoli ac ewyllys ddemocrataidd y bobol yng Nghymru,” meddai.

“Mae hwn yn lywodraeth sydd yn barod i dorri’r gyfraith gyda’r Bil hwn, ac yn cydnabod hynny.”