Mae tri o bobl wedi marw mewn tân gwyllt arall yn California sydd wedi gorfodi miloedd o bobl i ddianc o’u cartrefi.

Mae’r awdurdodau yno’n credu bod cannoedd, os nad miloedd, o gartrefi ac adeiladau wedi cael eu difrodi neu eu dinistrio gan y tân i’r gogledd-ddwyrain o San Francisco.

Ymysg y trefi sydd o dan fygythiad mae Paradise, a ddioddefodd y tân mwyaf marwol yn hanes y dalaith ddwy flynedd yn ôl. Mae adroddiadau am dagfeydd traffig yn y dref wrth i’r trigolion geisio dianc.

Ers canol mis Awst, mae tanau yn California wedi lladd 11 o bobl, dinistrio mwy na 3,600 o adeiladau, llosgi hen goed cochion a gorfodi cymunedau i ffoi o’u cartrefi ger yr arfordir ac ar hyd y Sierra Nevada.

Gyda bron i 2.5 miliwn o erwau eisoes wedi llosgi eleni – mwy nag erioed o’r blaen – roedd mwg trwchus yn taflu awyr oren mewn rhannau helaeth o’r dalaith neithiwr.