Mae arweinwyr rhai o siroedd gwledig Cymru wedi rhybuddio eu trigolion eu bod hwythau hefyd yn wynebu cloi lleol arall os na fyddan nhw’n “wyliadwrus” er mwyn cadw achosion Covid-19 i lawr.
Daw hyn ar ôl cloi lleol sydd mewn grym yn sir Caerffili ers nos Fawrth (Medi 8) i reoli achosion o’r coronafeirws.
Sir Gar, Sir Benfro a Ceredigion
Rhybuddiodd arweinwyr awdurdodau lleol, y bwrdd iechyd a Heddlu Dyfed-Powys bobol yn Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Ceredigion y gallai cloi lleol ddigwydd pe na baent yn dilyn rheolau pellter cymdeithasol.
Daeth y rhybudd ar ôl i glwstwr o achosion coronafirws gael eu cadarnhau yn Sir Gaerfyrddin.
Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd y Cynghorydd Emlyn Dole, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin, y Cynghorydd David Simpson, Arweinydd Cyngor Sir Penfro, a’r Cynghorydd Ellen ap Gwynn, Arweinydd Cyngor Ceredigion mae’r “peth olaf rydym eisiau ei wneud yw bod o dan gyfyngiadau symud lleol”.
“Ond, os bydd y bygythiad yn cynyddu a’r diffyg cadw pellter cymdeithasol yn parhau, mae’n bosibl y bydd yn rhaid i ni gymryd y camau angenrheidiol.
“Mae’r pandemig hwn ymhell o ddod i ben – mae’r feirws yn mynd ar led o hyd ac mae’r risg yn dal yn uchel. “
Gwisgo gorchudd wyneb
Mae Llinos Medi, arweinydd Cyngor Môn wedi annog pobol i fod yn “wyliadwrus wrth i ni fynd i’r afael â’r ‘normal newydd.”
“Cadwch at reolau pellter cymdeithasol, gwisgwch orchuddion wyneb a chofiwch olchi’ch dwylo’n rheolaidd os gwelwch yn dda”, meddai.
Er i Lywodraeth Cymru wneud hi’n ofynnol i bobol yng Nghaerffili wisgo gorchudd wyneb mewn siopau, dim ond ar drafnidiaeth gyhoeddus mae’n ofynnol i’w gwisgo mewn ardaloedd eraill o’r wlad.
“Rydym bellach yn mynd i gyfnod y gaeaf, sydd hefyd â’i heriau a’i bwysau ei hun”, meddai Llinos Medi.
“Mae’n hanfodol ein bod i gyd yn gwrando ar gyngor Llywodraeth Cymru a chyngor iechyd cyhoeddus ac yn ei ddilyn.”
Rhieni’n ymgynnull ger ysgolion ym Mhowys
Mae’r Cyngor Sir Powys wedi derbyn adroddiadau bod rhieni’n ymgynnull y tu allan i ysgolion wrth ollwng a chasglu eu plant.
“Rydyn ni wedi gwneud llawer o waith gydag ysgolion i sicrhau bod plant yn ddiogel yn eu hysgol a bod y risg y bydd y firws yn lledaenu yn cael ei leihau,” meddai’r Cynghorydd Phyl Davies, yr aelod o gabinet Powys dros Addysg.
“Byddai’n drueni pe bai’r gwaith hwn yn cael ei ddadwneud gan rieni a pherthnasau hŷn yn anwybyddu pellter cymdeithasol trwy ymgynnull y tu allan i gatiau’r ysgol.”
Cododd penaethiaid y sir bryderon hefyd fod rhieni wedi bod yn cysylltu ag ysgolion yn gofyn iddynt gadarnhau a oedd aelod o’r ysgol wedi profi’n bositif am Covid-19.
Ffigurau diweddaraf
Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru ddoe (Medi 9) na nodwyd unrhyw farwolaethau pellach, gyda chyfanswm y marwolaethau ers dechrau’r pandemig yn aros ar 1,597.
Cafwyd 165 o achosion newydd o Covid-19 yng Nghymru, gan ddod â chyfanswm nifer yr achosion a gadarnhawyd i 18,829.