Mae Llywodraeth Cymru wedi galw ar Lywodraeth Prydain i “chwarae ei rhan” i wella trafnidiaeth gyhoeddus yn y de-ddwyrain
Ym mis Gorffennaf, cyhoeddodd Comisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru adroddiad sy’n nodi’r angen am rwydwaith integredig o opsiynau trafnidiaeth newydd sydd ddim yn dibynnu ar draffyrdd.
Byddai’r uwchraddio yn arwain at gynnydd mewn capasiti, cyflymder y trenau a thrydaneiddio dros ardal eang – a allai arwain at leihau’r amser teithio rhwng Caerdydd a Llundain i 85 munud.
‘Ymrwymo i gyflawni ein cyfrifoldebau’
“Rydym wedi ymrwymo i gyflawni ein cyfrifoldebau ar gyfer bysiau, gwella ffyrdd a theithio llesol”, meddai Ken Skates, y Gweinidog Trafnidiaeth, yr Economi a Gogledd Cymru.
“Mae’n rhaid i Lywodraeth Prydain gwblhau ei hadolygiad o’r rheilffyrdd y bu oedi sylweddol yn ei gylch, datganoli rheilffyrdd yn gyfan gwbl i Gymru, a chynnig setliad cyllido teg, fel y gallwn ddechrau cywiro’r blynyddoedd o danfuddsoddi hanesyddol gan San Steffan yn y rhwydwaith rheilffyrdd yng Nghymru.
“Byddwn yn parhau gyda’r camau y gallwn eu cymryd nawr, ond mae’n rhaid i Lywodraeth Prydain chwarae ei rhan i gyflawni’r uwchraddio mawr sy’n cael ei argymell gan y Comisiwn.”