Mae Mark Drakeford ymhlith arweinwyr ymgyrch ledled Prydain gan y Blaid Lafur i bwyso am greu a diogelu swyddi.

Mae’r Gynghrair dros Gyflogaeth Lawn yn cael ei harwain ar y cyd gan Brif Weinidog Cymru a meiri Manceinion, Lerpwl, Newcastle, Sheffield a Bryste.

“Problem economaidd fwyaf ein hoes yw lefelau uchel o ddiweithdra,” meddai’r arweinwyr mewn datganiad ar y cyd i lansio’r Gyngrair.

“Mae arnom eisiau gweithio gyda chydweithwyr ym mhob rhanbarth a chenedl o’r Deyrnas Unedig, a chefnogi Cynghrair dros Gyflogaeth Lawn i fanteisio ar holl adnoddau’r Deyrnas Unedig i ddiweddu’r dirwasgiad a chreu swydd da o safon.”

Ychwanegodd Mark Drakeford:

“Coronafeirws yw argyfwng iechyd cyhoeddus a economaidd mwyaf ein hoes ac mae’n gosod straen anferthol ar y Gwasanaeth Iechyd, ein gwasanaethau cyhoeddus a’n bywydau bob dydd.

“Yn yr adegau anodd a heriol hyn, mae’n bwysig ein bod ni’n gweithio gyda’n gilydd, ar draws y pedair cenedl i fynd i’r afael â’r feirws a, gyda’n gilydd, adeiladu cymdeithas decach a gwyrddach i genedlaethau’r dyfodol.”