Cafodd mam ifanc ei gadael mewn dagrau pan na chafodd brawf Covid ar ôl taith awr a hanner i’w dderbyn.

Galwodd Kirstie Penman, myfyrwraig 21 oed o Wrecsam, ei meddyg i gael gwrthfiotigau ar gyfer problemau gyda’i brest, ond cafodd ei gyrru i gael prawf Covid-19 yn lle.

Ar ôl dreifio i’r ganolfan brofi agosaf yn Telford, dywedodd aelod o staff wrthi na fyddai’n cael ei phrofi gan na wnaeth dderbyn côd QR wrth archebu ei phrawf.

“Wedi teithio awr a hanner roedden ni’n meddwl ei fod yn jôc, ni chynigiodd y staff unrhyw gysur i ni.

“Dywedodd y staff bod ciw tu ôl i ni, ac y byddai’n rhaid dod yn ôl ar ôl derbyn y côd.

“Ar y pwynt hynny dechreuais grio, mae’n siwrne hir i wneud prawf,” ychwanegodd Kirstie Penman, sydd yn fam i un.

“Roedd yn rhaid i ni yrru adref, nid oedd opsiwn arall.”

Dim ffordd o gael prawf

Er ei bod wedi trio nifer o ffyrdd eraill o gael y prawf, dywedodd Kirstie ei bod bellach wedi rhoi gorau i drio.

“Does dim ffordd o gael trwodd, mae’r llinell ffôn yn eich torri i ffwrdd,” meddai.

Ychwanegodd bod ei meddyg wedi ei chynghori i drin ei symptomau adref, a chadw golwg ar ei hanadlu.

Daw profiadau Kirstie Penman ar ôl i un dyn oedd yn gweithio yng Nghaint gael ei yrru am brawf Covid naill ai i Gasnewydd neu i Chesterfield, yn Swydd Derby – dwy siwrne o 200 milltir un ffordd.

Ar ôl taith o 400 milltir aeth canlyniadau’r dyn, nad oedd am gael ei enwi, ar goll.

Wrth siarad yn fuan ar ôl i Boris Johnson, gyhoeddi ei gynlluniau i ehangu profion, dywedodd Kirstie Penman: “Os mai chi yw’r Prif Weinidog, mae gennych chi hen ddigon o amser i wneud cynlluniau ond nid yw’n ymddangos y gall Boris Johnson wneud dim yn iawn.

“Dw i ddim yn deall, ond dw i ddim yn meddwl ei fod wedi gwneud dim byd yn iawn ers dechrau’r pandemig â dweud y gwir.

“Mae bywydau pawb yn dod ôl i drefn, plant yn mynd yn ôl i’r ysgol a nifer achosion newydd yn codi, efallai bydd cyfnod clo arall yng Nghymru.

“Dw i’n meddwl fod pawb ychydig yn ddryslyd,” ychwanegodd.