Mae disgyblion blwyddyn gyfan mewn dwy ysgol uwchradd yng Nghasnewydd wedi cael eu gyrru adref ar ôl i ddisgybl brofi’n bositif am y coronafeirws ynddynt.
Dydd Mawrth (Medi 9) bu rhaid i Ysgol Uwchradd Lliswerry ofyn i 185 o ddisgyblion i aros adref am y 14 diwrnod nesaf.
“Yn anffodus, mae achos o covid-19 wedi i gadarnhau ymhlith un o’n disgyblion ym Mlwyddyn 7”, meddai Neil Davies, Pennaeth Ysgol Uwchradd Lliswerry.
“Bellach mae angen i ddisgyblion Blwyddyn 7 aros gartref am 14 diwrnod er mwyn lleihau lledaeniad posibl y firws i deulu, ffrindiau a’r gymuned ehangach. Y dyddiad y gall holl ddisgyblion Blwyddyn 7 ddychwelyd i’r ysgol yw dydd Llun Medi 21
“Bydd glanhau dwys yn digwydd a bydd pob grŵp blwyddyn arall yn parhau i allu mynychu’r ysgol”.
Bellach, mae Ysgol Uwchradd Gatholig Joseff Sant hefyd yng Nghasnewydd wedi gofyn i ddisgyblion blwyddyn 7 hunan ynysu.
Mewn llythyr i rieni dywedodd y Pennaeth, Jacki Jarret: “Dwi wedi cael gwybod am achos o Covid-19 ym mlwyddyn 7. Yn unol â chanllawiau gan Lywodraeth Cymru, Iechyd yr Amgylchedd a Chyngor Dinas Casnewydd mae holl ddisgyblion y flwyddyn yn hunan ynysu am 14 diwrnod.”
Mae tri achos o Covid-19 wedi bod yn ardal Casnewydd yn ystod y saith diwrnod diwethaf, sydd yn gyfradd o 21.3 o bob 100,000 o bobl.
Mae hyn yn cymharu â 151 achos yng Nghaerffili ble mae cloi lleol, sydd yn gyfradd o 83.4 o bob 100,000 – y nifer uchaf yng Nghymru.