Mae tân arall wedi dinistrio gwersyll ffoaduriaid yng Ngwlad Groeg.

Dywedodd gweinidogaeth ymfudo Gwlad Groeg i bob dim a gafodd ei arbed yn y tân gwreiddiol ar ynys Lesbos, a gafodd ei gychwyn yn fwriadol ddechrau’r wythnos gael ei ddinistrio yn yr ail dân neithiwr (Medi 9).

Roedd asiantaethau wedi rhybuddio ers hir bod yr amodau yn y gwersyll yn wael iawn.

Er mai 2,750 o bobol sydd i fod i gartrefu yno mae’n debyg bod dros 12,500 yn byw yn y gwersyll.

Yn dilyn y tân gafodd 3,500 ei gwneud yn ddigartref – hyd yma mae mwy na 400 o blant a phobl ifanc wedi eu hedfan i’r tir mawr i’w hail-gartrefu.

“Bydd yr holl gamau angenrheidiol i gartrefu’r pobol a theuluoedd bregus yn dechrau dydd Iau”, meddai Gweinidogaeth Ymfudo Gwlad Groeg.