Gallai cynlluniau uchelgeisiol gan Lywodraeth Prydain i gynyddu nifer o brofion coronafeirws arwain at gannoedd ar filoedd o bobol yn gorfod hunan-ynysu heb fod angen, yn ôl un ystadegydd blaenllaw.

Daeth y rhybudd wrth i weinidog yn y Cabinet gyfaddef nad yw’r dechnoleg sydd ei hangen ar gyfer y cynllun yn bod eto.

Rhybuddiodd yr Athro Syr David Spiegelhalter mai’r “peryg mawr” gyda chynllun Boris Johnson, “Operation Moonshot” – a fyddai’n golygu fod miliynau o brofion coronafeirws yn cael eu gwneud yng ngwledydd Prydain bob diwrnod – yw y byddai “nifer fawr iawn o ganlyniadau positif anghywir.”

Mewn cynhadledd i’r wasg ddydd Mercher (9 Medi) dywedodd y Prif Weinidog y byddai cael profion-ar-y-diwrnod yn golygu y gall canolfannau chwaraeon ac adloniant agor yn llawn, ac y byddai’n bosib i grwpiau mawr gymdeithasu unwaith eto.

Mae dogfennau sydd wedi eu datgelu’n answyddogol yn awgrymu y gallai’r cynllun gostio £100 biliwn, cost sy’n debyg i’r gyllideb o £114 biliwn a gafodd yr NHS yn Lloegr gan Lywodraeth Prydain yn 2018/19.

“Nid oes yr un prawf yn berffaith”

Dywedodd yr Athro Spiegelhalter wrth BBC Radio 4 fod ystadegwyr yn “taro’u pennau yn erbyn y wal” wrth glywed am y cynllun.

“Mae profi eang ar gyfer unrhyw afiechyd yn ymddangos fel syniad da, ond y perygl mawr yw’r canlyniadau positif anghywir – nid oes yr un prawf yn berffaith, nid yw’n fater o ia neu na.”

Esboniodd y byddai rhaid i’r profion “ddarganfod unrhyw beth sydd yn ymddangos yn heintus,” a fyddai’n golygu y byddai’r profion “wastad yn cynhyrchu nifer fawr o ganlyniadau positif anghywir.

“Daw’r broblem yn sgil bod rhaid i holl gysylltiadau’r person sydd wedi cael gorchymyn i hunan-ynysu, hunan-ynysu hefyd”, eglurodd yr Athro Spiegelhalter.

“Pe bai’r gyfradd canlyniadau positif anghywir ymysg bobol na sydd yn heintus ond yn 1% ac rydych yn profi pawb yng ngwledydd Prydain, byddai 600,000 o bobol yn derbyn canlyniadau positif anghywir.”

Yn gynharach fe wnaeth y Gweinidog Trafnidaeth Grant Shapps gydnabod wrth Sky News bod angen datblygu’r dechnoleg hon ymhellach. “Does yr un prawf yn y byd sydd yn gwneud hyn ar hyn o bryd, ond mae criwiau yn gweithio ar brototeipiau.”

Er hynny dywedodd Dr Jenny Harries, Dirprwy Prif Swyddog Iechyd Llywodraeth Prydain, ei bod yn debygol y bydd y dechnoleg yn barod mewn ychydig wythnosau neu fisoedd.

“Anghywir rhoi mwy o ryddid i bobol ifanc”

Dywedodd Grant Shapps y byddai’n anghywir rhoi mwy o ryddid i bobol ifanc nag i’r henoed wrth i gyfyngiadau gael eu llymhau yn sgil cynnydd mewn achosion newydd ymysg bobol ifanc.

“Dw i’n credu y byddai’n anghywir i gymdeithas ganiatáu i Covid-19 ledaenu ymysg rhan o’r boblogaeth oherwydd gall bobol ifanc fynd yn wirionedd wael gyda’r feirws, a byddai’n rhaid i bawb arall guddio rhagddo.

“Dw i ddim yn credu mai dyna’r ffordd iawn i redeg cymdeithas,” mynnodd.

Dywedodd y Prif Weinidog Boris Johnson ddydd Mercher (9 Medi) ei fod yn gobeithio “y bydd posib i rai agweddau o’n bywydau ddychwelyd i’r hen drefn erbyn y Nadolig,” gan nodi profi’n eang fel ffordd bosib o ddychwelyd at normalrwydd.

Am nawr, anogodd Boris Johnson bawb i gyfyngu “cymaint â phosib” ar eu cyswllt cymdeithasol ag eraill wrth iddo gadarnhau y bydd cyfarfodydd cymdeithasol gyda mwy o na chwe pherson yn erbyn y gyfraith yn Lloegr o ddydd Llun ymlaen.

Yng Nghymru mae hyd at 30 o bobol yn dal i gael cyfarfod tu allan.