Mae cyfryngau Cymru yn “anwybyddu lleisiau ceidwadol yn barhaus” ac yn ddigon hapus â’i “deiet o straeon ysgafn a chaws Caerffili”.

Dyna farn Daran Hill, yr ymgynghorydd gwleidyddol amlwg yn sgil ei ymddangosiad ar bodlediad newydd y Prydain Podcast.

Ef yw sefydlydd Positif Politics, ac roedd yn Rheolwr Gyfarwyddwr ar y cwmni ymgynghori am 14 mlynedd tan y mis hwn. Yr wythnos hon mi ddatgelodd y bydd yn ymaelodi â’r Ceidwadwyr.

Mewn darn i’r blog ceidwadol Gwydir mae wedi dweud mai consensws cyffyrddus y Bae wnaeth sbarduno’r cam, ac mi ymhelaethodd ar hynny yn ei ymddangosiad ar y podlediad.

“Mae’r cyfryngau prif ffrwd yn anwybyddu lleisiau ceidwadol yn barhaus,” meddai wrth Prydain Podcast.

“Does gan y BBC ddim diddordeb yn y Blaid Geidwadol ond pan mae sgandal yn ffrwtian. Allan nhw redeg yr un sgandal â rhai pobol am ryw chwe mis.”

Y cwt a’r caws yn corddi

Aeth ati hefyd i rannu ei farn am y driniaeth mae Prif Weinidog Cymru, wedi ei dderbyn gan y wasg Gymreig yn ystod yr argyfwng covid-19.

Ddiwedd mis Gorffennaf daeth i’r amlwg bod Mark Drakeford yn byw mewn cwt ar waelod ei ardd – a hynny er mwyn diogelu ei deulu rhag yr haint.

Wythnosau yn ddiweddarach roedd ffynonellau Ceidwadol yn adrodd bod y cwt yn fwy o dŷ allanol, ac yn llai truenus nag oedd adroddiadau’n awgrymu.

“Wnaeth hyn wneud fi’n grac iawn,” meddai Daran Hill. “Ac nid yn grac mewn ffordd synthetig.

“Dydych chi ddim yn medru ei feirniadu am gysgu mewn cwt,” meddai wedyn. “Roedd hynny’n weithred glodwiw. Gwahanu ei hun o weddill ei deulu. Dw i ddim yn nabod unrhyw un oedd â gair drwg am hynny.

“Ond roedd sbin yno, yndoedd? Nid cwt mewn cefn ardd oedd e’. Pe bai hynny wedi digwydd ar lefel y Deyrnas Unedig byddai’r sefyllfa wedi troi’n wyllt.”

Mae Mark Drakeford hefyd wedi ennyn cryn sylw am ei sylwadau am gaws mewn sesiwn cwestiynau’r cyhoedd.

A gan gyfeirio at hynny dywed Daran Hill bod y cyfryngau yng Nghymru yn byw ar “ddeiet o straeon ysgafn a chaws Caerffili”.

Un mewn, un mas

Brynhawn dydd Mercher cyhoeddodd David Melding, y byddai’n ymddiswyddo yn Gwnsler Cyffredinol y Ceidwadwyr yn y Senedd.

Wrth gamu o’r neilltu rhannodd ei bryderon am y ffordd mae Llywodraeth San Steffan wedi bwrw ati â Brexit.