Mae’r AS Torïaidd dros Kensington, sef yr ardal sydd yn cynnwys Tŵr Grenfell, wedi cael ei beirniadu’n hallt am bleidleisio yn erbyn ymgais i dynhau rheolau tân.

Mae unigolion a gafodd eu heffeithio gan y tân wedi beio Felicity Buchan am wneud “sylwadau diystyr” a “throi ei chefn” arnynt, ar ôl iddi bleidleisio yn erbyn ymgais y Blaid Lafur i sicrhau bod deunyddiau adeiladu yn derbyn gwiriadau pellach.

Roedd hi ymhlith 318 o aelodau seneddol a bleidleisiodd yn erbyn y gwelliant a gynigiodd y Blaid Lafur i’r Bil Diogelwch Tân yn Nhŷ’r Cyffredin ddydd Llun (Medi 7).

Cyhuddo Felicity Buchan o “droi ei chefn”  

Mewn llythyr a gafodd ei gyhoeddi ddoe (Medi 9) dywedodd grŵp Grenfell United wrth Felicity Buchan: “Wythnos hon, roedd gennych y cyfle i sefyll gydag ein cymuned, ond ni wnaethoch ei gymryd.”

“Efallai na fyddai eich pleidlais wedi newid y canlyniad terfynol, ond byddai wedi dangos eich cefnogaeth ac eich awydd i greu newid, nid yn unig i gymuned Grenfell, ond i’r holl wlad.

“Yn hytrach, fe wnaethoch chi droi eich cefn.”

Mae’r grŵp Grenfell United yn cynnwys unigolion a ddioddefodd yn y tân, ac a oroesodd.

“Gweithredu er budd ei hetholwyr”

Heddiw (Medi 10), dywedodd Felicity Buchan iddi fod mewn cyswllt â’r grŵp, gan ddatgan “fod buddion ac anghenion fy etholwyr, yn ogystal ag eraill a gafodd eu heffeithio gan y tân yn Nhŵr Grenfell, yn flaenoriaeth i mi yn y Senedd.

“Cefais fy ysgogi i wneud yr hyn wnes i gan ei fod er budd yr etholwyr.”

Honnodd Felicity Buchan ei bod wedi pleidleisio yn erbyn y gwelliant oherwydd “pryder” y byddai oedi pellach yn y trafodaethau ynghylch deddfau diogelwch tân petai wedi cael ei basio.

Cafodd y Bil Diogelwch Tân ei lunio yn 2017 ar ôl i’r tân yn Nhŵr Grenfell, yng ngorllewin Llundain, ladd 72 o bobol.

Daeth adroddiad cam cyntaf Archwiliad Grenfell, a gafodd ei gyhoeddi yn Hydref 2019, i’r canlyniad nad oedd cladin y tŵr yn cyd-fynd â chanllawiau adeiladau, ac mai dyma’r rheswm “pennaf” dros ledaeniad sydyn y tân.

Petai gwelliant Llafur wedi ei dderbyn byddai’n orfodol i berchnogion a rheolwyr fflatiau rannu gwybodaeth am ddyluniad a deunyddiau waliau allanol eu hdeiladau gyda’r gwasanaeth tân lleol.

Yn ogystal, byddai’n orfodol i lifftiau a drysau fflatiau unigol gael eu harchwilio yn rheolaidd, a byddai’n rhaid rhannu cyfarwyddiadau ar ddiogelwch tân a sut i ymadael â’r adeilad gyda’r preswylwyr.