Mae gan bawb ran i’w chwarae wrth geisio gostwng y nifer sy’n marw trwy hunanladdiad, yn ôl prif swyddogion dwy elusen amlwg.

Heddiw (Medi 10) yw ‘Diwrnod Atal Hunanladdiad y Byd’ ac mae yn cael ei gynnal wrth i ffigurau swyddogol y Swyddfa Ystadegau ddangos darlun go sobor.

Y llynedd bu farw 5,691 trwy hunanladdiad yng Nghymru a Lloegr, gyda thua tri chwarter ohonyn nhw’n ddynion – 4,303 yn wrywaidd a 1,388 yn fenywaidd.