Mae 21 o ddisgyblion mewn ysgol gynradd yn sir Caerffili yn dechrau ar gyfnod 14 diwrnod o ynysu.

Fe ddaw ar ôl i aelod o staff yn yr ysgol brofi’n bositif ar gyfer y coronafeirws.

Yn unol â chyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, bydd holl ddisgyblion un dosbarth yn gorfod ynysu, ac mae’r holl rieni wedi cael gwybod.

Maen nhw’n pwysleisio bod camau diogelwch wedi’u cymryd i sicrhau bod pawb arall yn ddiogel yn yr ysgol, ac maen nhw’n dweud nad oes angen i neb arall ynysu oni bai bod ganddyn nhw symptomau’r feirws.

Ymateb y Cyngor

“Roedd potensial o hyd y gallai hyn ddigwydd,” meddai Richard Edmunds, Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.

“Mae ein systemau ymateb wedi’u cynllunio er mwyn ymateb i sefyllfaoedd fel hon.

“Mae gennym ni gynlluniau iechyd a diogelwch cadarn yn eu lle er mwyn ymdrin ag achosion positif o’r natur yma.

“Mae camau wedi’u cymryd ar unwaith ac mae rhieni wedi cael gwybod fod rhaid i ddisgyblion o’r dosbarth hwnnw ynysu bellach am gyfnod o 14 diwrnod.

“Fel y gwyddoch chi, rydym wedi sefydlu trefn brofi yn yr ardal dros y dyddiau diwethaf, sydd wedi galluogi trigolion i ymweld â chanolfan brofi fwy lleol.

“Rydym wedi cymryd yr holl ragofalon angenrheidiol yn ein hysgolion a lleoliadau addysg eraill, ac rydym yn hyderus y byddwn yn parhau i ymdrin â’r achosion hyn yn gyflym ac yn effeithiol er mwyn sicrhau diogelwch y cyhoedd.

“Hoffwn gynnig sicrwydd i rieni a gofalwyr y bydd ein hysgolion yn parhau i agor a bod yr holl ragofalon diogelwch angenrheidiol yn eu lle.

“Rwy’n cynnig fy ymrwymiad i chi y byddwn ni’n parhau i adolygu pob sefyllfa fesul achos, ac y byddwn yn parhau i gyfathrebu’n agored ac yn onest â rhieni a staff wrth i ragor o wybodaeth ddod i law.”