Mae prif weinidog Seland Newydd wedi addo dathliadau cenedlaethol newydd i nodi Blwyddyn Newydd y Maori pe bai’n cael ei hailethol.

Byddai’n golygu y byddai pobol yn cael diwrnod o wyliau cenedlaethol i nodi’r achlysur.

Daw’r addewid wrth i Jacinda Ardern ddechrau ar ei hymgyrch etholiadol.

“Fe ddaeth yr amser,” meddai.

Dyma fyddai’r diwrnod cenedlaethol cyntaf newydd o wyliau ers bron i 50 mlynedd, ac mae ymgyrchwyr wedi bod yn dadlau y byddai’n rhoi mwy o gydnabyddiaeth i’r Maori.

Byddai’r diwrnod yn cael ei gynnal yng nghanol gaeaf bob blwyddyn i gyd-daro â Matariki, clwstwr o sêr, yn dychwelyd i’r awyr i nodi dechrau blwyddyn newydd yn nhraddodiad y Maori.

Ar hyn o bryd, mae Seland Newydd yn dathlu Diwrnod Waitangi i nodi cytundeb yn 1840 rhwng y Maori a Phrydain oedd, i bob pwrpas, yn gyfrifol am sefydlu gwlad Seland Newydd.

Ond mae rhai yn protestio yn erbyn y dathliadau, gan ddweud bod y diwrnod yn cofio’r amser pan gollodd y Maori diroedd ac eiddo dan law gwladychwyr.

Gwrthwynebu’r gwyliau ychwanegol

Mae eraill yn gwrthwynebu’r syniad o ddiwrnod arall o wyliau yn y flwyddyn, wrth i fusnesau geisio adfer ar ôl y coronafeirws.

Yn ôl y gwleidydd Ceidwadol David Seymour, mae miloedd o bobol wedi colli eu swyddi a fyddai busnesau ddim yn gallu goroesi gwyliau arall.

Mae’n dweud nad yw Jacinda Ardern “yn ffit i lywodraethu” os yw hi am barhau â’r cynllun.

Ond mae Kelvin Davis, Maori sy’n ddirprwy arweinydd y Blaid Lafur, yn dweud y byddai’n gyfle i’r Maori ddathlu eu traddodiadau, diwylliant a hanes unigryw ac y byddai’n gam ymlaen wrth geisio uno’r genedl.

Mae disgwyl i’r dathliad ddechrau yn 2022.

Mae polau’n awgrymu ar hyn o bryd y bydd Jacinda Ardern yn aros mewn grym.